Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/330

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD VIII.

BYR HANESION YCHWANEGOL.

CYNWYSIAD.—Golwg gyffredinol ar yr hanes—Addysgiadau— Cymeriad rhagorol y crefyddwyr cyntaf—Eu gwaith yn cynorthwyo y gwan yn esiampl i'r oes hon—Engraifft hynod o amddifyniad dwyfol—L. W. yn Llanegryn—Mary Jones—Talu dyled y capelau yn 1839—Y Teithiau Sabbothol—Y Pregethwyr—Cyfrifon deugain mlynedd—Ymweliad â'r eglwysi.

  MAE yr hanes a roddwyd yn y tudalenau blaenorol am eglwysi y Methodistiaid yn y rhanbarth hwn o Sir Feirionydd, er yn dra anmherffaith, yn dangos crynhodeb o'r gwaith mawr a wnaethpwyd gydag achos y Cyfryngwr, yn yr amser aeth heibio. Nid ydyw yr hanes, mae'n wir, ond crynhodeb o'r pethau a welwyd ac a glybuwyd gan y tadau, ac a wnaethpwyd ymhlith pobl yr Arglwydd hyd y pryd hwn. Casglwyd y prif ffeithiau am hanes pob lle, mor bell ag y gellid eu cael, a gadawyd allan y pethau y tybid nad oeddynt o fuddioldeb cyffredinol. Hyn sydd sicr, fod llawer o bobl grefyddol, ymroddedig, duwiolfrydig, wedi eu darparu i deyrnas nefoedd yn yr ardaloedd a'r cymoedd yr ydym ni yn awr yn byw ynddynt. Treuliasant hwy eu bywyd i ddigaregu y ffordd, i wasgaru y tywyllwch, ac i blanu gwir grefydd yn y wlad, a thra phriodol yn y cysylltiad hwn ydyw geiriau yr Ysgrythyr, "A chwithau a aethoch i mewn i'w llafur hwynt." Yr hybarch enwog Ddoctor Edwards, o'r Bala, ar ryw amgylchiad, a ddywedai, fod dilyn yn ol traed y saint, sangu y ddaear a sangasant hwy, cerdded y llwybrau y buont hwy yn eu cerdded, yn foddion arbenig i enyn zel a chryfhau ffydd y duwiolion, "Byddaf fi," ebai, "ambell waith yn hen gapel y Bala, yn cofio fy mod yn sefyll yn yr un lle ag y bu Mr. Charles, a John Evans, ac enwogion eraill yn