Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/331

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sefyll, o dan arddeliad amlwg y nefoedd, a bydd cofio hyny yn rhoddi nerth a grym adnewyddol yn fy ysbryd." Nid yn unig yr ydym ni yn cael mwynhau o ffrwyth llafur y tadau, ond yr ydym yn rhodio y cymoedd a'r llwybrau y buont hwy yn eu rhodio, ac yn sangu y llanerchau y buont hwy yn eu sangu o'n blaen, a'r Arglwydd yn gwneuthur pethau mawrion trwyddynt. Y mae myfyrio ar eu llafur, ac ystyried eu ffydd a'u hymarweddiad hwy, yn sicr o fod yn foddion o ras i eglwysi y saint ar bob amserau.

Tra rhyfedd, hefyd, ydyw helyntion yr amseroedd gynt. I ni sydd yn meddu breintiau a goleuni yr "oes oleu hon," ymddengys amgylchiadau ein gwlad mor ddiweddar a chan' mlynedd yn ol yn ddieithriol. Nid ydyw can' mlynedd yn ein cario yn ol ond megis ychydig o'i gymharu â'r amseroedd pell, pell ymhlith oesoedd y byd. Ac eto, mor agos atom o ran amser, dim ond megis oes gŵr,—hynod mor wahanol ydoedd y wlad oll, y trigolion mewn dygn anwybodaeth a thywyllwch, hen ac ieuanc yn credu pob ofergoelion, ac oll yn dilyn llwybrau pechadurus ac annuwiol. Yr hyn a ddygodd y cyfnewidiad mawr o amgylch oedd y diwygiad crefyddol a ddechreuodd yn yr ardaloedd hyn oddeutu yr un adeg a dechreuad yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru. Pa mor ddiolchgar y dylem ni deimlo, am fod ein llygaid yn gweled y pethau yr ydym yn eu gweled, a'n clustiau yn clywed y pethau yr ydym yn eu clywed!

Ond beth ydyw yr addysgiadau i ni oddiwrth yr hanes hwn am y cyfnod o gan' mlynedd? Beth yn ychwaneg a allwn wybod am fawrion weithredoedd Duw yn ein gwlad? Yr ydym yn gweled ei oruchwyliaethau Ef yn nechreuad a chynydd crefydd mewn modd amlwg. Dechreuodd yr achos yn fychan. Ymddangosodd seren foreu y Methodistiaid, pan ddechreuodd William Hugh, Llechwedd, Llanfihangel, fyned i wrando yr efengyl y tuallan i'w ardal ei hun, ychydig amser yn flaenorol i 1780. Torodd y wawr, ymdaenodd y goleuni, ac o fewn