Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/332

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhyw bymtheg mlynedd, yr oedd wedi dyfod yn ddydd. Yr oedd y cyffroad y blynyddoedd cyntaf yn fawr. Digwyddai llawer o bethau hynod mewn cysylltiad â moddion distadl ynddynt eu hunain: cyfarfyddai dynion hyfion ac annuwiol âg argyhoeddiad uniongyrchol, ac megis yn wyrthiol; dilynai dylanwadau nerthol y weinidogaeth trwy offerynau gwael; ymddangosai Ysbryd Duw yn gweithio trwy ffordd anghyffredin i ddwyn pethau mawrion i ben, ac i beri planu gwir grefydd yn y wlad. Cyffyrddai y naill grefyddwr â'r llall, a cherddai y tan dwyfol ymlaen o'r naill ardal i ardal arall, nes o'r diwedd gymeryd meddiant llwyr o'r holl ardaloedd. Yn y cyffroad cyntaf, ac yn mhlaniad yr eglwysi, lle y preswyliai ychydig bobl, y rhai oeddynt wedi eu hargyhoeddi am eu hanghenion ysbrydol, y mae llaw Rhagluniaeth ddwyfol yn eglur yn yr amlwg. Rhoddi ystyriaeth briodol i'r pethau hyn a fyddai yn sicr o gynyrchu ynom ysbryd addolgar.

Ystyriaeth arall yn llawn o addysgiadau ydyw, cymeriad rhagorol y crefyddwyr cyntaf. Fel ymhob oes, ac ymhob gwlad, lle y gwreiddiodd yr efengyl ac y sefydlwyd crefydd Crist, bu yma hefyd o'r dechreu golofnau cryfion yn cynal achos yr Arglwydd, trwy barch ac anmharch, trwy glod ac anghlod, tra fyddai weithiau yn nos ac weithiau yn ddydd. Yr oedd delw y cyfnod cyntaf yn amlwg ar grefyddwyr y cyfnod hwnw. Rhai oeddynt hwy wedi dyfod trwy argyhoeddiadau dyfnion a dwysion-wedi eu symud o dywyllwch a chaddug annuwioldeb i ryddid yr efengyl ac o ganlyniad yn gallu gweled mor fawr oedd y gwahaniaeth rhwng cyflwr colledig a chyflwr o ras; ac yr oedd eu llawenydd a'u gorfoledd yn anrhaethadwy, oherwydd y waredigaeth a ddaethai iddynt hwy ac i'w gwlad. Yr oedd eu tröedigaeth mor drwyadl, a grym duwioldeb ynddynt mor ddiledrith, fel ag i wneuthur y llinell rhyngddynt hwy a'r byd di-broffes yn llawer amlycach nag ydyw yn awr. Ceid yn fynych arwyddion o allu yr iachawdwriaeth yn gweithredu megis yn ddigyfrwng, i gyfateb i