Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/335

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bydd i chwi lawer o berygl, ond, yn wir, penderfynu eich lladd y mae y bobl. Ffarwel i chwi.'

Aethum yn fy mlaen, a gwnaethum â'r ddwy geiniog fel y'm haddysgwyd; a phan ddaeth yr amser i ddechreu, mi a aethum ac a sefais ar ben rhywbeth, a dechreuais yr odfa. Edrychai y bobl ar y cyntaf yn lled hyll, ond rywfodd mi gefais lonydd hollol i bregethu. Yn fuan ar ol i mi ddarfod, wele ddyn, trwsiadus yr olwg arno, yn esgyn i ben y clawdd, ac yn dywedyd, 'Bobl, ni wn i ddim am y Methodistiaid, ond dyn iawn yw hwn! Y mae hwn yn dywedyd y Beibl. Mi fedra i y Beibl gystal a neb, ac mi wn na ddywedodd hwn ddim ond y Beibl, am hyny mi fynaf chwareu teg iddo. Gyda hyn aeth pawb i'w gartref."

Lewis William yn Llanegryn

Y mae dwy ffaith mewn cysylltiad â'r Ysgol Sul yn Nosbarth y Ddwy Afon, sydd yn llawn mor hynod a dim a geir yn yr oll o Gymru. Un ydyw, L. W. yn cadw Ysgol Sul yn Llanegryn, heb fedru darllen dim ei hun; y llall, hanes Mary Jones yn myned i'r Bala, i brynu Beibl gan Mr. Charles. Ni fyddai yn gyfiawnder pasio heibio i'r rhai hyn heb roddi crynhodeb byr O honynt, er eu bod wedi eu cyhoeddi o'r blaen. Heblaw hyny, y mae y ddwy ffaith mor ramantus, fel y dylai cenedl y Cymry ymgydnabyddu â hwy ymhob rhyw ffordd. Crybwyllwyd am danynt rai gweithiau yn y tudalenau blaenorol, ond rhoddir yr hanes yn helaethach yma. Oddeutu dwy neu dair blynedd yn flaenorol i 1800, pan yn gweini fel gwas fferm gyda pherthynasau iddo, yn y Trychiad, Llanegryn, teimlai L. W. yn ddwys dros anwybodaeth ieuenctyd yr ardal, a phenderfynodd geisio sefydlu ysgol ar y Sabbath, a rhai o nosweithiau ganol yr wythnos, i'w dysgu i ddarllen. Ni chawsai erioed ddiwrnod o ysgol ddyddiol, ac nis gallai ei hun ddarllen bron air ar lyfr yn gywir. Dywedir na fu erioed cyn hyn mewn Ysgol Sul; ond y tebyg ydyw y gallai ei fod wedi