Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/338

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Duw we—wedi iddo—le—lef—lefaru la—lawer gwaith, a llawer—modd,—gynt—wrth y—tad—au,—trwy y pro—proff —(proffwydi, sisialai John Ellis, o'r Abermaw, yn ei glust o'r tu cefn iddo)—yn—y—d—ydd—iau—di—wedd—af hyn a le—lef—lefarodd wrth—ym ni yn ei Fab.—"

"Dyna ddigon machgen i, dyna ddigon. Wel! Sut yr wyt ti yn gallu addysgu neb i ddarllen, mae tuhwnt i fy amgyffred i. Dywed i mi, 'machgen i, sut yr wyt ti yn gwneyd i addysgu y plant acw i ddarllen?"

Rhoddai yntau iddo fanylion y dull a gymerai—y cydganu yr A, B, C,—y gwersi parotöl gyda Betti Ifan—ymryson darllen bechgyn y Grammar School—y chwaren soldiers bach, a'r cyfan.

Ar anogaeth y pen-addysgwr o'r Bala, aeth i'r ysgol am tua chwarter blwyddyn, at John Jones, Penyparc; a dyna yr oll o addysg ddyddiol a gafodd erioed. Yr oedd y syniad yn bod mai y radd uchaf mewn darllen oedd gallu darllen fel "person." Ai yntau yn fynych, er mwyn perffeithio ei hun yn y ffordd hon hefyd, i eglwysi Llanegryn a Thowyn, i glywed y "person" yn darllen. A thua'r flwyddyn 1799, cyflogodd Mr. Charles ef yn athraw i'w ysgolion, am 4p. y flwyddyn, yr hyn a fu yn ddechreuad ei yrfa lwyddianus.

Mary Jones

Y mae ei hanes hi yr engraifft oreu ellir gael o'r modd y mae canlyniadau mawr yn dyfod o ddechreuad bychan. Gallwn ddweyd yn y dechreu mai ei mynediad hi o Abergynolwyn i'r Bala, i ymofyn am Feibl, a fu yn achlysur i esgor ar sefydliad y Feibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor. Ganwyd Mary Jones, fel y crybwyllwyd mewn cysylltiad â hanes yr eglwys yn Abergynolwyn, yn Tŷ'nddol, o gylch dwy filldir o bentref Abergynolwyn, yn y flwyddyn 1784. Pan oedd tua 10 oed, sefydlodd Mr. Charles un o'i ysgolion yn mhentref Abergynolwyn, o dan ofal John Ellis, o'r Abermaw. Cyn hir wedi hyn, mewn canlyniad i sefydliad yr ysgol ddyddiol, sef-