Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/339

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydlwyd yno Ysgol Sabbothol, ac hyd y goddefai amgylchiadau ei rhieni, y rhai oeddynt dlodion, cafodd Mary y fraint o ddilyn y ddwy ysgol. Nid oedd Beiblau i'w cael mewn tai tlodion yn y dyddiau hyny; y Beibl agosaf y gallai hi ei ddefnyddio oedd, un mewn ffermdy tua dwy filldir o ffordd o'i chartref. At y Beibl benthyg hwnw yr elai yr eneth fechan bob wythnos, i ddysgu ei benodau ar ei chof erbyn yr ysgol ar y Sabbath. Bu am flynyddau yn casglu pob ceiniog a gaffai, er mwyn i'r ceiniogau dd'od yn ddigon o swm iddi brynu Beibl o'i heiddo ei hun. Wedi i'r swm gyraedd y pris y clywsai y gallai gael Beibl, aeth i'r Llechwedd, at William Hugh, i'w holi ymha le yr oedd un i'w gael. Ei ateb ef iddi oedd, nas gallai gael yr un ar werth yn nes na'r Bala, ac ofnai fod yr oll o'r Beiblau a gawsai Mr. Charles o Lundain wedi eu gwerthu er's misoedd. Ond yn ngwyneb pob rhwystrau, anturiodd hi yr holl daith i'r Bala, i wneuthur cais am yr hyn yr oedd ei chalon er's amser yn dyheu am dano.

Ar foreu teg, yn ngwanwyn y flwyddyn 1800, cychwynodd i'w thaith bell-rhwng 25 a 30 milldir-tua'r Bala Cawsai fenthyg wallet i gludo ei thrysor adref, os caniatai y nefoedd a Mr. Charles iddi gael ei dymuniad. Yr oedd ganddi esgidiau i'w rhoddi am ei thraed i fyned i'r dref. Cariai y rhai hyn yn y wallet ar ei chefn, a cherddai yr holl ffordd yn droednoeth. Erbyn cyraedd pen ei thaith yr oedd yn hwyr y dydd-yn rhy hwyr iddi weled Mr. Charles, gan mai ei arfer ef ar hyd ei oes oedd, " yn gynar i'r gwely a chynar i godi." Yn ol cyfarwyddyd William Hugh iddi cyn cychwyn, ymholodd am dŷ Dafydd Edward-hen bregethwr parchus-ac yntau wedi clywed ei hanes a gymerodd y dyddordeb mwyaf ynddi:-

"Wel, fy ngeneth i, mae yn rhy hwyr i ni gael gweled Mr. Charles heno; mae yn arfer myned i'w wely yn gynar, ond bydd yn codi gyda'r wawr yn y boreu. Cei gysgu yma heno, ac ni a awn ato mor fuan ag y cyfyd boreu yfory, er mwyn i ti allu cyraedd adref nos yfory."