Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Yn nhymor fy ieuenctid," ebe gwr oedd wedi ei eni oddeutu 1780, yn y parthau o Sir Feirionydd (o Harlech i Aberdyfi), "lle yr oeddwn yn byw, yr oedd gwylmabsantau a nosweithiau llawen yn fawr iawn eu rhwysg. Yn y cyfarfodydd hyn, yr oedd dawnsiau, canu gyda'r tànau, y cardiau, a meddwi yn ffynu; a dibenai y cwbl yn gyffredin mewn ymrysonau ac ymladdau." Am yr un cyfnod yr ysgrifena John Davies, Nantglyn, yn y geiriau canlynol: "Interludiau oedd yn fawr eu cymeradwyad y pryd hwn; byddai llawer o bobl yn myned ymhell o ffordd i weled a chlywed y rhai hyn, a byddid yn eu cyhoeddi ar ol y gwasanaeth gan y clochydd yn y llan; a chyhoeddid y campau yr un fath! Byddai y bobl ieuainc yn cyflogi fiddler i ganu ynddynt am y tymor, ac yn rhoddi iddo lawer o arian am ei wasanaeth. Cyfarfyddent yn y nos i ddweyd rhyw storiau a chwedlau celwyddog, ynghyd â hanes eu cymydogion yn agos ac ymhell. Sonid llawer am ymddangosiad ysbrydion, a thylwythau teg, a chredid pob math ar goelion, swynion, a dewiniaeth." Byddai y nosweithiau llawen yn cael eu cyhoeddi ymlaen llaw, a byddent yn myned ar gylch trwy y gymydogaeth, yn debyg fel y mae y peiriant dyrnu yn y blynyddoedd hyn, yn symud o ffarm i ffarm, ond fod y naill beiriant yn dyrnu yr yd, a'r peiriant arall yn dyrnu eneidiau dynion. Y lle yr oedd y nosweithiau llawen yn y cymydogaethau hyn yn fawr eu bri ydoedd ardal Bryncrug Yr oedd un o'r tai ar dop y graig, yn agos i'r lle y saif y Board School yn awr, yn dy tafarn. Cedwid nosweithiau llawen yn y dafarn hon yn fynych, a chyflogid fiddler i wneuthur y gwyddfodolwyr yn fwyaf llawen ag y gellid. Adroddir am dro rhyfedd ar un o'r nosweithiau hyn. Rywbryd yn y nos, aeth y fiddler allan, ac yn ebrwydd wedi iddo fyned allan, clywai y bobl oddimewn ryw leisiau anhyfryd iawn; aethant allan bob un. Erbyn hyn, yr oedd wedi ei godi uwch eu penau, ac yn ysgrechian fel mochyn, ac yn fuan, clywent rywbeth yn disgyn yn glwt ar y llawr. Rhed-