Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/341

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn dda iawn genyf finau ei roddi i ti. Darllena lawer arno, a dysga lawer o hono ar dŷ gôf, a bydd yn eneth dda." "Dafydd Edward" ychwanegai Mr. Charles, "onid ydyw y fath olygfa a hon yn ddigon i hollti y galon galetaf-geneth ieuanc, dlawd, ddeallus, yn gorfod cerdded fel hyn yr holl ffordd o Lanfihangel yma-dros 50 milldir rhwng cerdded yma ac yn ol; ac yn droednoeth, hefyd, a ddywedasoch chwi onide, i geisio am Feibl! Mae y Gymdeithas er lledaenu Gwybodaeth Gristionogol, a arferai argraffu Beiblau a Thestamentau Cymraeg, er dechreu y ganrif ddiweddaf, wedi gwrthod yn benderfynol argraffu dim un Beibl na Thestament ychwaneg i ysgolion Cymru. Ond mae yr eneth fechan ddeallus yma wedi effeithio mor ddwys arnaf, fel nas gallaf byth orphwys nes cael rhyw lwybr arall i gyfarfod âg angen mawr ein gwlad am Air Duw." Ymhen pedair blynedd wedi hyn, fel y mae yn wybyddus, y sefydlwyd y Feibl Gymdeithas.

Gwnaeth Mary Jones ddefnydd da o'i Beibl, a chyfranodd lawer o'i phrinder, trwy ei hoes, tuag at ledaenu Beiblau i baganiaid y byd. Treuliodd ran olaf ei hoes yn mhentref Bryncrug, gerllaw Towyn, a bu farw "mewn llawn sicrwydd gobaith," Rhagfyr 28ain, 1866, yn 82 mlwydd oed. Tua saith mlynedd yn ol, sef wedi cyhoeddi hanes ei bywyd yn llyfr bychan, penderfynwyd gwneyd rhywbeth i anrhydeddu ei choffadwriaeth, a thrwy danysgrifiadau a wnaethpwyd yn Ysgolion Sabbothol Dosbarth y Ddwy Afon, ynghyd â chynorthwy ychydig o gyfeillion eraill, cyfodwyd cofgolofn fechan ar ei bedd lle nad oedd careg wedi ei rhoddi o'r blaen-yn y fynwent berthynol i gapel y Methodistiaid yn Bryncrug, ac y mae yn gerfiedig arni, yn Gymraeg a Saesneg, grybwylliad am ei thaith gofiadwy i'r Bala yn 1800. Nid yw y golofn ond bechan, am na chyrhaeddai yr arian i roddi un fwy. Y mae llawer o gyrchu eisoes i bentref Bryncrug gan ymwelwyr o Loegr, i weled ei beddfaen. Ar ol ei marw, y mae ei Beibl hefyd wedi creu iddo ei hun hanes. Ar ei gwely angau, cyflwynodd