Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/342

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hi ef i'w gweinidog, y Parch. Robert Griffith, Bryncrug, yr hwn a'i cyflwynodd drachefn i Mr. R. O. Rees, Dolgellau. Yntau a'i cyflwynodd i Bwyllgor Athrofa y Bala, i'w gadw yn Llyfrgell yr Athrofa. Ar ol llawer cais oddiwrth Bwyllgor y Feibl Gymdeithas yn Llundain, ildiodd Pwyllgor yr Athrofa, o'r diwedd, iddo gael ei drosglwyddo i'w gadw yn Llyfrgell y Fam Gymdeithas, er coffadwriaeth am yr amgylchiad a arweiniodd i'w sefydliad.

Olrheiniodd Mr. R. O. Rees, Dolgellau, hanes yr eneth fechan heb yr un Beibl i'w ddechreuad. Ysgrifenodd yr hanes mewn dull swynol, ac anarferol o ddyddorol; ac yn Ionawr, 1879, cyhoeddodd ef yn llyfr bychan, o dan y teitl, "Mary Jones, y Gymraes fechan heb yr un Beibl." Er pan gyhoeddwyd ef, cafodd gylchrediad cyflym ac eang, tuhwnt i bob disgwyliad. Mewn ol-ysgrifen o'r argraffiad cyntaf, dywed yr awdwr, "Eisoes y mae ceisiadau wedi eu derbyn oddiwrth swyddogion y Feibl Gymdeithas yn amryw o wledydd y Cyfandir, megis Ffrainc, Itali, Germany, a Holland, am ganiatad i gyhoeddi cyfieithiadau o'r hanes gyda'r darluniau, yn ieithoedd y gwledydd hyny." Yn y flwyddyn 1885, yr oedd wedi ei gyfieithu o'r Gymraeg i wyth o ieithoedd eraill. Mae yr hanes dyddorol wedi ei gyhoeddi hefyd mewn amrywiol ffyrdd yn Saesneg. Rai misoedd yn ol yr oedd y Sunday School Union yn rhoddi allan hysbysiad:—"Mary Jones and her Bible"-Cantata for the use of Sunday Schools. A dechreu y flwyddyn hon yr oedd hysbysiad yn dyfod o swyddfa y Feibl Gymdeithas, fod 80,000 o gopïau o'r llyfr wedi eu hargraffa gan y Gymdeithas yn yr iaith Saesneg yn unig.

Talu Dyled y Capelau yn 1839.

Crybwyllwyd droion mewn cysylltiad a'r eglwysi, am yr ymdrech a wnaethpwyd y flwyddyn uchod i dalu dyled y capelau. Teilynga yr ymdrech hono sylw ychwanegol, oherwydd fod yr egwyddor o'r naill yn cynorthwyo y llall, i'w