Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/343

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweled mor amlwg ynddi, ac, hefyd, am ddarfod i'r ymdrech gael ei choroni â llwyddiant perffaith. Rhoddwyd y cynllun ar waith gan ddau ŵr da, sydd yn sefyll yn uchel mewn parch hyd heddyw yn Sir Feirionydd. Yn y daflen isod, ceir cyfrif o'r arian a dderbyniwyd ac a dalwyd tuag at ddileu dyledion ar gapelau y Methodistiaid yn y dosbarth rhwng y Ddwy Afon, yn dechreu Mawrth 1af, 1839 ac a gasglwyd gan y Parch. Richard Humphreys a William Williams, Ysw., Ivy House, Dolgellau. Gwnaed y casgliad yn fanwl ymhob ardal-o lan afon Mawddach i lan afon Dyfi. Aeth y ddau ŵr a grybwyllwyd o amgylch i gasglu addewidion, y rhai oedd i'w talu yn fisol o hyny hyd ddiwedd y flwyddyn hono, Mr. Williams gymerodd y drafferth fwyaf gyda hyn. Y mae y swm a gasglwyd ymhob lle, ac enw pob un a gyfranodd ymhob lle, ynghyd â'r swm ar gyfer ei enw, wedi eu cadw yn ofalus hyd yn awr. Rhoddodd y Cyfarfod Misol ei gefnogaeth wresog i'r anturiaeth, oherwydd penderfynwyd yn y Bontddu, Mawrth 2Sain, 1839: "Fod i'r blaenoriaid gyhoeddi yn y capelau, mai ar ol y cyfarfod gweddi, bob nos Lun cyntaf o'r mis, y byddant yn derbyn yr addewidion tuag at dalu dyledion y capelau, ac hefyd yn cymeryd addewidion ychwanegol. Yn ol y cynllun yr oedd pob cynulleidfa i gyflwyno ei chasgliad i un gronfa gyffredinol, a'i dyled oll i'w thalu allan o hono; ac yr oedd pob cynulleidfa i gasglu yr un ffunud, pa un bynag a oedd mewn dyled ai peidio. Y canlyniad fu i'r anturiaeth droi allan yn gymaint o lwyddiant fel ag i glirio yn llwyr holl ddyled y cylch, gan adael swm yn weddill.