Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/344

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar ol talu y dyledion hyn, cymerodd yr ymddiddan canlynol le rhwng offeiriad A- âg Edward Williams, hen flaenor cyntaf Towyn. Nid oedd llawer o amser er pan adeiladesid Eglwys Wladol A-, ac yr oedd peth o'i dyled yn aros eto heb ei thalu. "Yr ydych chwi wedi cael colled fawr," ebe yr offeiriad, trwy farwolaeth Cadben Ellis (gŵr blaenllaw a haelionus i achos y Methodistiaid.)" Ydym," ebe Edward Williams, "ond y mae hyn yn gysur mawr i ni, yr ydym wedi talu dyledion ein holl gapelau rhwng y Ddwy Afon." "Yr ydych yn wir," ebe yr offeiriad, "yr ydym ni yn methu talu dyled un adeilad " "Rhyfedd iawn," ychwanegai Edward Williams, "a chenych chwi y mae hyrddod Nebaioth' i gyd!"

Y TEITHIAU SABBOTHOL

Yn 1836.

1. Corris, Ystradgwyn, Cwrt. 2. Pennal, Maethlon, Aberdyfi. 3. Towyn, Bryncrug. 4. Trinant, Llanegryn. Bwlch, Llwyngwril, Sion.

Yn 1886.

1. Corris, Esgairgeiliog. 2. Aberllefeni, Ratgoed. 3. Bethania, Ystradgwyn.4. Abergynolwyn, Penmeini 5. Pennal, Bryniau. 6. Aberdyfi. 7. Towyn, Maethlon. 8. Bryncrug, Abertrinant. 9. Llanegryn, Bwlch. 10, Towyn Saesneg. 11. Aberdyfi Saesneg.