Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/345

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae Llwyngwril a Sion yn perthyn yn awr i Ddosbarth Dolgellau. Yn 1836, rhif y teithiau oedd 5, a rhif y capelau,, 11. Yn 1886, mae rhif y teithiau yn 11, a rhif y capelau a'r ysgoldai yn 18—heb gyfrif Aberdyfi Saesneg, lle y cynhelir yr achos hyd yma mewn ystafell ardrethol.

Y GWEINIDOGION A'R PREGETHWYR
Yn 1836.

1. Lewis Morris, Sion. 2. Owen Williams, Bryncrug. 3. Hugh Jones, Towyn. 4. Evan Roberts, Sion. 5. William. Jones, Maethlon. 6. Evan Morris, Bryncrug. 7. Edward. Rees, Llanegryn. 8. Edward Roberts, Maethlon.

Pedwar yn unig oedd eu rhif yn 1820; Lewis Morris, William Hugh, Hugh Jones, Towyn, Owen Williams, Towyn, (Bryncrug).

Yn 1886

Gweinidogion—William Davies, Llanegryn; J. H. Symond, Towyn; Robert Owen, M.A, Pennal; Griffith Evans, Bryncrug; William Williams, Corris; John Owen, Aberllefeni;. Richard Rowlands, Llwyngwril. Pregethwyr—R. W. Jones, Abergynolwyn; R. E. Morris, B.A., Aberdyfi; John Evans, Pennal; Owen Parry—Owen, Pennal; John Owen, Abergynolwyn; William Evans, Pennal; John Vaughan, Towyn.

CYFRIFON EGLWYSIG DEUGAIN MLYNEDD

Yn 1849 y dechreuwyd argraffu y cyfrifon cyntaf yn y sir. Cesglid rhyw ychydig o honynt ynghyd yn ystod y deng mlynedd blaenorol, i'w cyflwyno i'r Cyfarfod Misol. Dengys yr ychydig golofnau isod o'r cyfrifon cyntaf a gafwyd, y Ar ol y cyfrif cynydd yn y deugain mlynedd diweddaf cyntaf, rhaid cofio fod Aberllefeni, Bethania, ac Esgairgeiliog, wedi eu tynu allan o eglwys Corris, a'r un modd yr eglwysi. Saesneg, mewn rhan, o eglwysi Cymraeg Towyn ac Aberdyfi.