Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

asant i'r fan, a dyna lle yr oedd mewn llesmair ar domen o ludw, ac yr oedd yn drugaredd mai ar domen o ludw y disgyn- odd, ac nid ar y graig. Yr oedd yno rywbeth neu rywun wedi bod yno yn ei godi i fyny i'r uchelder, ac am enyd, yn ei sgytian fel babi. Bu yr amgylchiad yn atalfa am dymor ar y nosweithiau llawen. Credid yr hanes hwn yn ddiamheuol, oblegid ewythr i Griffith Pugh, Berthlwyd, brawd ei dad, oedd y fiddler.

Am ysbrydion, a straeon, a chwedlau am y tylwyth teg, &c., ni ddeuid i ben a'u hadrodd. "Credid pob math ar goelion, swynion, a dewiniaeth." Nid oedd hyn yn beth i synu ato lle nad oedd goleuni yr efengyl ond prin wedi gwawrio. Yr oedd traddodiad yn ardal Pennal, fod crochan a'i lonaid o arian yn guddiedig yn rhywle ar dyddyn Cefncaer, a mawr fyddai yr awydd am dd'od o hyd iddo. Bu amaethwr cyfrifol o'r gymydogaeth mor ffol a rhoddi y swm o 20p. i ddywedwyr tesni am ddweyd ymha le yr ydoedd. Yr oedd hefyd yn byw yn ardal Pennal ŵr yn arfer dewiniaeth, "cunger" (conjurer) proffesedig, yr hwn oedd yn meddu dylanwad mawr ar ddosbarth liosog o bobl trwy yr holl wlad. Honai ei hun yn feddyg, ac yr oedd oblegid hyny yn gallu tynu mwy o bobl ato. Gelwid ef Dr. Pugh, ond nid oedd mewn gwirionedd yn ddim ond quack doctor. Adnabyddid ef ymhob man trwy y cylchoedd o amgylch fel cunger llwyddianus, a byddai cyrchu mawr ato am feddyginiaeth i'r corff a gwellhad i'r meddwl, ac ato ef yr elid am gyfarwyddyd os byddai unrhyw anhwyldeb ar anifeiliaid neu anhap wedi digwydd i eiddo a meddianau. Rhoddai yntau iddynt ryw bapyryn a llythyrenau arno fel moddion anffaeledig rhag pob anhwyldeb, a chlwy, ac anhap. Byddai ganddo nifer o bobl loerig ac anmhwyllus yn eu cadw o dan ei ofal, rhai yn ei dŷ ei hun, a rhai yn nhai cymydogion, a dygid y rhai hyn ato o bellder ffordd. Adroddir am un o'r enw M——D——, oedd yn byw yn C——fn——rh——s, yn myned a'i fam ato, yr hon oedd yn ngafael rhyw afiechyd nad oedd yn