Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/351

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwrandawiad yn astud. Gosodwyd y cantorion yn y gallery, ac arweiniwyd y canu, yr hwn oedd yn dra godidog, gan Mr. H. LI. Jones, Corris. Dau beth a dynent sylw arbenig yn y cynulliad oeddynt,—hanes yr Ysgol Sabbothol yn y dosbarth am y can mlynedd a aethai heibio, a'r anerchiad grymus a draddodwyd ar "Ein gwaith yn y dyfodol." Mewn adroddiad o weithrediadau yr wyl a ymddangosodd mewn newyddiadur ar y pryd, ceir y sylw canlynol, "Gallwn ddweyd yn eofn na welsom y teimlad a'r dyddordeb mewn un cyfarfod erioed yn dyrchafu mor reolaidd, ac yn cyraedd y fath bwynt ag a wnaeth yn y cyfarfod hwn." Diameu i argraffiadau gael eu gwneyd yn y cylch hwn o'r wlad, trwy yr wyl gofiadwy hon, na ddileir mo honynt yn hir. Yr oedd yn perthyn i gylch Cyfarfod Ysgolion y dosbarth flwyddyn yr wyl 19 o ysgolion, heblaw dwy eraill nad ydynt eto wedi ymuno â'r Cyfarfod Ysgolion, sef ysgol Saesneg Towyn ac ysgol Saesneg Aberdyfi. Nifer yr ysgolheigion, 2292; cyfartaledd y presenoldeb, 1463; cyfartaledd presenoldeb y cant, 65—4; arolygwyr, 24; athrawon, 231; athrawesau, 73. Dysgwyd allan o adnodau, 380,854; cyfartaledd i bob aelod, 170—1; Hyfforddwr, 1158; Rhodd Mam a'r Holiedydd Bach, 1490; Deg Gorchymyn, 1057; penillion, 11,579.

Terfynwn trwy y geiriau y terfynwyd yr adroddiad o hanes yr Ysgol Sul yn Aberdyfi noson yr wyl,—"Y mae llawer o rwystrau i ddyfod ar ffordd yr Ysgol Sul eto, ond nid yw y rhwystrau ddaw

Un gronyn uwch, un gronyn mwy
Na hwy a gwrddaist draw.'

Fe ddaw yn Nghymru anffyddwyr i ddweyd yn ei herbyn, ond mae yr Hwn sydd wedi ei llwyddo hyd yma yn abl i'w llwyddo yn y dyfodol. Fe gyfyd llawer cwmwl du yn y can' mlynedd sydd yn dyfod, ond mae yr Hwn sydd yn marchog ar nef y nefoedd yn ddigon galluog i chwalu pob cwmwl. Yr hyn yr ymgysurai Israel ynddo mewn cyfyngderau fyddai,