Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/356

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cafodd y Cyfarfodydd Dosbarth eu bodolaeth o angenrheidrwydd, megis ag y dywedir mai angen yw mam pob dyfais. Y crybwyllion cyntaf ar gael am danynt ydyw, yr hyn a welir yn ysgrifau Lewis Williams, Llanfachreth, a John Jones, Penypare. Hwy eu dau oedd y cynllunwyr a'r trefnwyr yn y rhanau hyn o'r sir. Yr enwau ar y cyfarfodydd dosbarth yn eu hysgrifau hwy ydynt, "Cyfarfod o swyddogion eglwysi y Cylch," neu, "Gyfarfod y brodyr yn ardaloedd Towyn a Dolgellau." Ceir cofrestr o'r cyfryw gyfarfodydd ymysg papyrau L. Williams. Dywed efe, Y cyfarfod cyntaf yn yr amser presenol a gynhaliwyd yn Nolgellau, Gorphenaf 29ain, 1814. Nid oedd hwn yn gyfarfod dosbarth rheolaidd, oblegid prin y gellir meddwl fod y dosbarthiadau eto wedi eu ffurfio. Nid oedd yn holl Ddosbarth Dolgellau, ychwaith, y pryd hwn, fwy na phump o eglwysi, os oedd eu nifer gymaint a hyny. Eto, yr oedd hwn yn gyfarfod cynwysedig o henuriaid eglwysi y cylch. Darllenwyd ar ei ddechreu rhan olaf o'r 20fed benod o lyfr yr Actau, lle y ceir fod Paul yn galw benuriaid yr eglwys ynghyd, i'w cynghori a'u cyfarwyddo. Ystyrid gan y brodyr yn Nolgellau, y diwrnod crybwylledig, fod y cyfarfod hwnw yn gynllun o "gyfarfod brodyr neu henuriaid." Ymgynghorwyd ynghylch y pethau a ddygid gerbron yn y cyfarfod hwn, a'r cyfarfodydd cyffelyb oeddynt i'w ddilyn, a phenderfynwyd ar y materion canlynol: 1. Bwrw golwg ar y cyhoeddiadau. 2. Fod materion y Cyfarfodydd Misol i gael sylw yn y cyfarfodydd hyn. 3. Fod pawb i roddi hanes y cymdeithasau neillduol y perthynant iddynt, fel blaenoriaid neu henuriaid, er cael gwybod pa un ai isel ai llwyddianus fyddo yr achos yn y gwahanol ardaloedd. 4. Fod achosion dyrus o ddisgyblaeth i'w dwyn i'r cyfarfodydd hyn, ac os na ellid eu penderfynu yma, fod iddynt gael eu cyflwyno i'r Cyfarfodydd Misol. 5. Fod caniatad i'r blaenoriaid ddweyd eu profiadau. 6. Bwrw golwg pwy all fyned i'r Cyfarfod Chwarterol ynghyd â'r Cyfarfod Misol nesaf. 7. Fod rhyw