Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/357

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fater yn cael ei roddi i'w ystyried erbyn y cyfarfod dilynol." Dyna y materion y rhoddwyd sylw iddynt ac y trefnwyd yn eu cylch yn nghyfarfod yr henuriaid yn Nolgellau, y diwrnod crybwylledig, yn y flwyddyn 1814, a'r hwn a elwir ganddynt hwy y cyfarfod cyntaf. Cynhaliwyd yr ail gyfarfod yn y Bontddu, ac mae yn debyg mai yn ol cynllun y cyntaf y cynhelid yr holl gyfarfodydd y blynyddoedd hyny. Ymysg ysgrifau a llythyrau John Jones, Penyparc, ceir crybwyllion am gyfarfodydd cyffelyb yn cael eu cynal yn ardaloedd Towyn, yn ystod deugain mlynedd cyntaf y ganrif bresenol.

Heblaw y pethau a grybwyllwyd, anhawdd ydyw cael dim o hanes y cyfarfodydd hyn yn amser y tadau. Yr oll y gellir bod yn sicr yn eu cylch ydyw, eu bod yn cael eu cynal mewn rhyw wedd neu gilydd er's cryn lawer o amser. Wrth holi y bobl hynaf, y rhai sydd wedi bod yn swyddogion yn eglwysi y sir er's haner can mlynedd, yr hyn a ddywedant ydyw, fod y cyfarfodydd dosbarth yn cael eu cynal cyn iddynt hwy gofio. Pa beth ydyw eu hanes mewn siroedd eraill, nid ydym mor sicr. Hyn sydd yn lled amlwg, fod cryn wahaniaeth mewn gwahanol siroedd, yn y rhif o gyfarfodydd dosbarth a gynhelir mewn blwyddyn, ac yn y dull o'u cynal.

Y mae amser wedi dwyn cyfnewidiadau ymlaen yn hyn fel pob peth arall. Beth bynag am ansawdd grefyddol yr hen gyfarfodydd, gwneir llawer mwy o waith, yn enwedig gwaith allanol yr eglwysi, yn y dyddiau presenol, nag a wneid ynddynt yn nyddiau y tadau. Beth bynag hefyd oedd zel a gweithgarwch Methodistiaid cyntaf y sir, llithrasant hwy ymhen blynyddoedd i fesur o oerfelgarwch. Haner can mlynedd yn ol, a chryn lawer yn ddiweddarach na hyny, nid ymddengys y cynhelid dim ond un cyfarfod dosbarth yn flwyddyn, a hwnw yn agos i'w diwedd. Anfynych yn ystod y tymor hwn y gwelir cyfeiriadau atynt yn nghofnodion y Cyfarfodydd Misol. O leiaf, ni cheir crybwyllion am danynt yn agos mor fynych ag mewn blynyddoedd diweddar. Yr oedd dau fater, dybygid, yn cael