Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/358

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sylw ynddynt yn amser y tadau, y parheir i'w cymeryd yn faterion yn ein dyddiau ni, sef,—Ystyried pwy o'r brodyr yn y weinidogaeth a elwid i gael eu hordeinio, a bwrw golwg dros yr achos yn eglwysi y cylch. Ond yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf gwneir mwy o waith ynddynt na hyn, a chynhelir hwy, fel rheol, yn llawer amlach nag unwaith yn y flwyddyn. Golyga hyn fod y gwaith yn y Cyfarfodydd Misol y blynyddoedd diweddaf wedi dyfod yn llawer trymach nag yr arferai a bod, ac oblegid hyny, trosglwyddir rhan o'r gwaith i'w wneuthur yn y Cyfarfodydd Dosbarth, er, ar yr un pryd, nad oes dim yn meddu awdurdod safadwy heb ei ddwyn i'r Cyfarfod Misol, a'i gadarnhau yno. Y tebyg ydyw y gwneir mwy o waith eto yn y Cyfarfod Dosbarth fel y cerdda blynyddoedd ymlaen.

Wedi gwneuthur y sylw byr hwn am yr hyn sydd yn wybyddus o berthynas i'r dosbarth, gellir hysbysu fod y cynllun o ysgrifenu hanes yr eglwysi yn ddosbarthiadau wedi ei fabwysiadu, am y tybid y byddai yr hanes felly yn fwy dealladwy, yn hytrach na chymeryd yr eglwysi, un yma ac un acw.