Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/359

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD II

——————

HANES YR EGLWYSI

CYNWYSIAD.—Salem—Bontddu—Llanfachreth—Sion—Llanelltyd —Rhiwspardyn—Rehoboth—Abergeirw—Hermon—Carmel—Silo —Saron—Bethel—Eglwys Saesneg Dolgellau.

SALEM, DOLGELLAU.

CYNWYSIAD.—Hanes boreuol—Yr Ysgol Ddyddiol a L. W.— Yr Ysgol Sabbothol—Y Cymanfaoedd—Yr Eglwys yn Nghapel Salem—Y Blaenoriaid—Y Pregethwyr.

 AE Dolgellau wedi llenwi lle mawr yn hanes crefydd, ymhlith Methodistiaid Gorllewin Meirionydd o'r dechreuad, ac ar y cyfrif hwn, y mae yn perthyn i'r eglwys hon restr helaethach o ddigwyddiadau i'w cofnodi na'r un eglwys arall yn y rhan yma o'r sir. Yn rhagluniaethol, hefyd, y mae mwy o'i hanes hi, yn yr amser boreuol, ar gof a chadw nag sydd i'w gael am yr eglwysi eraill. Y dref hon ydoedd canolbwynt yr achos a berthynai i Gyfarfod Misol. rhan Orllewinol y Sir, a chan fod ynddi nifer o ddynion deallus a blaenllaw yn byw trwy yr holl flynyddau, cadwyd yma rai pethau dyddorol mewn cysylltiad â chrefydd y wlad mewn côf-lyfrau. Ond y wybodaeth sicr am y modd yr oedd pethau yn y dechreuad ydyw, yr hyn a ysgrifenodd Mr. Charles yn y Drysorfa Ysbrydol, tua diwedd y ganrif ddiweddaf, fel ffrwyth yr ymddiddan a fu rhyngddo ef a'r Hybarch John Evans, o'r Bala. Buwyd yn dra ffyddlon hefyd i anfon hanes helaeth oddiyma i'r Parchedig John Hughes, pan ydoedd yn ysgrifenu "Methodistiaeth Cymru," oddeutu 1850. Fel hyn y dywed John Evans, o'r Bala, wrth Mr. Charles:—

"Gallaf roddi i chwi beth hanes am hyny," sef am gychwyniad crefydd yn rhai o ardaloedd y wlad. "Dechreuad crefydd