Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwella o hono, a dywedai wrth fyn'd a hi at Dr. Pugh, "Dydyw yr ysbryd drwg yn gwybod dim am dani, a chymer Duw mohoni, ac yr wyf yn myn'd a hi at Dr. Pugh, i Bennal, i edrych a all ef wneyd rhywbeth o honi." Yr oedd y Dr. Pagh hwn yn elyniaethus iawn i grefydd ac yn erlidiwr penaf yn yr holl wlad. Yr oedd yn haner brawd i William Hugh, Llechwedd, yr hen bregethwr cyntaf gan y Methodistiaid rhwng y Ddwy Afon. Ar gyfrif y berthynas hon, ac oherwydd fod y wlad yn dyfod a dynion lloerig ato i'w gwella, byddai yn arfer dweyd, "fagodd yr un fam erioed ddau frawd yr un fath a Will a minau—un yn gyru dynion o'u coëau, a'r llall yn dyfod a hwy i'w coëau." Cael eu twyllo y byddai y bobl druain a ddeuent at y quack doctor. "O ble mae'r bobl yn d'od yma," gofynai Hugh Rolant, y tailiwr, iddo un tro; "wedi eu witchio y maent?" "Huwcyn bach," ebe yntau, "nid oes dim o'r fath beth a witchio mewn bod." "I beth ynte yr ydych yn eu twyllo?" "Y nhw sydd yn dyfod ataf fi, y ffyliaid, fe ânt at rywun arall os na roddaf fi beth iddynt." Cafodd Hugh Rolant wybod llawer am ddirgelion y grefft gan ei gâr a'i gymydog Dr. Pugh, fel y daeth i ffieiddio y grefft o eigion ei galon, a gresynai hyd ddiwedd ei oes fod neb mor ffol i'w gael ag i roddi crediniaeth mewn dywedyd tesni. Ond yr oedd y fath anwybodaeth dwfn a'r fath dywyllwch teimladwy ag oedd yn y wlad y pryd hwnw yn peri fod twyllwyr, a rhai yn cael eu twyllo yn aml iawn. Yr oedd crediniaeth mewn swynion a dewiniaeth mor gryf a chyffredinol gan' mlynedd yn ol, fel y mae olion y cyfryw bethau i'w gweled hyd y dydd hwn. Er nad oes, hyd y gwyddis, yr un cunger proffesedig yn byw yn awr yn y parth hwn o Sir Feirionydd, y mae eto yn yr "oes oleu hon," fel mae gwaetha'r modd, rai yn credu mewn dywedyd tesni, ac a ânt filldiroedd o ffordd i siroedd eraill i ymgynghori â'r gwr sydd yn cymeryd arno ei fod yn medru dewiniaeth. Mor hir o amser raid gael i yru hen arferiad ddrwg allan o'r wlad! Yn Methodistiaeth