Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/360

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Nolgellau a'i chylchoedd, oedd trwy ddyfodiad gwraig grefyddol yno, yn nghylch A.D. 1766, i gadw ysgol. Ei henw oedd Jane Griffith; ganed a magwyd hi yn yr Erw Bach, yn Nolbenmaen, yn Swydd Gaernarfon. Byddai y wraig hon yn ymddiddan yn aml â'r sawl a wrandawent arni, am ddrwg pechod, a chyflwr truenus dyn trwy y cwymp. Ymwasgodd ychydig o dlodion, trwy hyn, i ymgyfeillachu â hi. Cyn pen hir ymadawodd y wraig oddi yno; ond ei chyfeillion ni fedrent fod yn llonydd yn hwy heb air y bywyd; ymofynasant am rai i bregethu iddynt, ac yn fuan daeth llefarwyr o Swydd Gaernarfon, ac o'r Bala, i weinidogaethu iddynt; ond yr oedd mawr berygl iddynt am eu heinioes; oherwydd yr oedd y wlad a'r dref wedi cyffroi yn anferth i wrthwynebu y ffordd newydd o gynghori dynion mewn tai cyffredin a'r prif-ffyrdd, yn lle yr holl chwareuon a'r oferedd arferedig yn y wlad ymhob man yn eu dyddiau. Y brodyr yn Bala a gymerasant dan amod weithred (lease) dros flynyddoedd, dŷ a elwir Pant-y-Cra, ynghylch milldir o dref Dolgellau, i bregethu ynddo. Ar ddydd Sabbath, yr oedd un Mr. T. Foulkes, o'r Bala, wedi addaw dyfod yno i gynghori; taenodd y swn am hyn a'r led; pan ddaeth yr amser, tyrodd pobl y wlad a'r dref yno, yn bygwth os doi efe yno, y dienyddient ef, ac y claddent ef mewn pwll mawnog gerllaw. Pan glywodd rhai o'r cyfeillion am fwriad gwaedlyd y dorf fileinig, aethant i gyfarfod y gŵr ac a'u hataliasant rhag dyfod yno. Pan, trwy hyny, y siomwyd yr erlidwyr, rhuthrasant ar y tŷ, a thynasant ddarn o hono i lawr; ond wedi hyny, yn ofni cael drwg, mewn amser hwy a'u hadgweiriasant drachefn. Daeth cynghori iddo eilwaith, ac o fesur ychydig ac ychydig, anturiwyd pregethu yn y dref. Un diwrnod, yr oedd tri gwr o'r deheudir yn pregethu yno; cynhyrfodd yr holl dref yn unfryd i erlid, cadwasant y ddwy bont yn nau ben i'r dref, fel na chaent fyned allan o honi heb eu baeddu, os nid eu lladd ganddynt. Y cyfeillion a gymerasant y ceffylau, ac a aethant ymlaen, y lleill o'r brodyr a ddygasant