Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/361

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y pregethwyr ar eu traed trwy yr afon uwchlaw y bont, ac felly y diangasant y tro hwnw yn ddiogel, oddieithr un o'r cyfeillion,. yr hwn a gafodd ddyrnod â chareg ar ei ben, nes y syrthiodd i lawr, ac ar hyny ffodd yr erlidwyr, gan dybied eu bod wedi ei ladd. Tro arall, daeth un o ganlynwyr Howel Harris o Drefecca yno, ac a ryfygodd bregethu ar gyhoedd y farchnad; ond. bu dda ganddo gipio ei geffyl a ffoi gyda phrysurdeb. Cododd. yr holl erlidwyr ar ei ol, a mynent, gan gymaint eu llid a'u. cynddaredd, ei ddryllio yn dipiau-daeth un gŵr a thryfer yn. ei law ar fedr ei redeg ef â hono; yr oedd llidiart o'i flaen, a daeth gwraig y gŵr a'r dryfer yn ei law ac hagorodd iddo, ac felly, trwy ddiogelwch yr Arglwydd arno, y diangodd y tro. hwnw a'i fywyd yn ysglyfaeth ganddo."—Y Drysorfa Ysbrydol.

Dyma y dechreuad. Amser maith cyn y dechreuad hwn, bu Vavasor Powell, ymhlith manau eraill, yn pregethu yn Nolgellau. Ac ar ei ol ef Hugh Owen, Bronelydwr, o fendigedig goffadwriaeth, a'i olynydd Mr. Kenrick, a fuont yn efengylu yn y dref, ac am dymor yn cynal moddion yn rheolaidd mewn tŷ a adnabyddir hyd heddyw wrth yr enw, "Ty Cyfarfod." Ond pa faint bynag o ddaioni a wnaeth yr efengylwyr daionus hyn yn y dref, ymddengys fod amrywiol ddigwyddiadau wedi cymeryd lle yn nghylchdroadau Rhagluniaeth i beri fod yr amser y daeth y wraig Jane Griffith yma i gadw ysgol, yn fwy manteisiol i ddwyn pethau mawrion o amgylch mewn cysylltiad â theyrnas yr efengyl. Yr oedd yr efengyl wedi dechreu llwyddo mewn manau o amgylch, megis yn y Bala a Sir Gaernarfon. O ymyl Brynengan, ardal a fu yn enwog am ei chrefydd yn moreuddydd Methodistiaeth, y daethai y wraig hon, yr hyn yn bur sicr a rydd gyfrif am yr ysbryd crefyddol rhagorol oedd ynddi. Y mae un hanesyn hynod yn cael ei adrodd am dani mewn cysylltiad a'i hymadawiad o Ddolgellau. Gorfodaeth roddwyd arni i ymadael, oblegid ei chrefydd. Aeth y si allan ei bod yn cynal cyfar-