Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/367

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyfod yn fwy ffyrnig ar ol ymweliad Harris a Rowlands, ac na feiddiai neb bregethu yn y dref liw dydd yn y tymor hwn, a bod y bregeth a bregethwyd gan Mr. Griffiths, o Gaernarfon, yn cyfeirio at ryw adeg tua diwedd y tymor ffyrnig crybwylledig.

Bu pregethu, fel y crybwyllwyd, yn nhŷ John Lewis am ysbaid o amser. Yr oedd y gŵr hwn yn berchen ar nerth meddwl a nerth braich, yn gystal a'i fod yn meddu ar grefydd, fel y dengys yr hanesyn canlynol. Yr oedd dau o fechgyn hyfion, meibion i fasnachwr dylanwadol yn y dref, yn sarhau a phoenydio y crefyddwyr a gyfarfyddai yn ei dŷ. Un tro, wedi deall fod y ddau o gwmpas y tŷ yn aflonyddu, aeth allan, a rhoddodd wasga erwin iddynt. Achwynasant hwythau wrth eu tad am y drinfa hon, ac ebe y tad dranoeth wrth John Lewis, "Pa fodd y meiddiwch chwi faeddu fy mhlant i?" "Cedwch chwithau eich plant gartref," ebe John Lewis. "Paham yr wyt ti yn cynwys hereticiaid yn dy dŷ ynte," ebe y masnachwr. "Nid hereticiaid monynt," ebe John Lewis. Aeth yn gryn daeru rhwng y ddau, a heriodd y masnachwr John Lewis i ymladd ag ef. Derbyniwyd yr her, a chytunasant i gyfarfod yn y fan a'r fan, yr adeg a'r adeg, i ymladd. Ond ni fentrodd y gŵr mawr ymlaen i ymladd, a dyma fu diwedd trahausder y bechgyn hyfion hyn: cafodd y crefyddwyr lonydd oddiwrthynt hwy boed o fyno.

Lle arall y buwyd yn pregethu llawer ynddo yn y dref ydoedd tŷ David Owen, y gwydrwr. Mae y tŷ hwn, a'r rhai a breswylient ynddo wedi eu hanfarwoli yn nheimlad pobl Dolgellau. Catherine Owen, gwraig y tŷ, megis yr eglurwyd, oedd yr hon a safodd yn y ffenestr, rhwng yr erlidwyr â'r rhai a draethent air yr Arglwydd. Nid oedd David Owen ei hun, pa fodd bynag, yn proffesu crefydd y pryd hwn, ond sicr ydyw ei fod yn teimlo ymlyniad cryf wrth grefydd, hyd yn nod yr adeg hon, onide ni fuasai yn agor ei dŷ i'r crefyddwyr yn ngwyneb y fath anhawsderau a pheryglon. Engraifft o'r perygl y gosodai ei hun a'i dŷ ynddo, ydyw yr hyn a ddywed