Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/368

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hen ŵr oedd yn fyw yn 1850, sef iddo fod, pan yn blentyn, mewn odfa yn y tŷ, "a bod yr erlidwyr y pryd hwnw wedi myned i'r fynwent, yr hon oedd gyferbyn â'r tŷ, a lluchient gerig mawrion ar do y ty, y rhai oedd yn tyrfu fel taranau uwchben y pregethwr a'r gynulleidfa, nes y bu raid rhoddi heibio bregethu." Adroddir am dro arall penderfynol iawn o eiddo y gŵr hwn. Tra yr oedd cyfarfod eglwysig yn cael ei gynal yn y parlwr, ac yntau wrtho ei hun yn y gegin, ymosodai y dyhirod yn ffyrnig ar y tŷ, gan luchio cerig ar y to, a llaid at y ffenestri, nes peryglu diogelwch y rhai oedd oddimewn. Pallodd amynedd David Owen, cymerodd ei ddryll yn ei law, a bygythiodd yn benderfynol y saethai efe bob un o honynt oni roddent i fyny niweidio ei dŷ; ar hyny yr erlidwyr a ffoisant ymaith mewn ofn mawr.

Wrth ei weled yn cael ei gamdrin fel hyn yn barhaus, a'i dŷ yn cael ei niweidio, cynghorwyd D, Owen i roddi y rhai blaenaf o'r terfysgwyr yn ngafael y gyfraith; â hyn y cytunodd yntau. Dygwyd yr achos ymlaen i'r Sesiwn yn y Bala. Gwnaed parotoadau erbyn y trial, ac yr oedd gan yr erlidwyr blaid gref —y mawrion, a gwyr y gyfraith oll o'u plaid, tra nad oedd gan y crefyddwyr, o'r tu arall, ddim ond y gwirionedd yn unig o'u tu,—"Dygwyd yr achos o flaen y Grand Jury, a galwyd yr erlynyddion ymlaen, ac wedi eu cael gerbron, gofynwyd yn wawdlyd iawn iddynt, Pa mor aml y byddent yn arfer myned i'r weddi dywyll?—Pa bryd y byddent yn arfer diffodd y canwyllau yn eu cyfarfodydd?—a nifer o holiadau disynwyr o'r fath. Wedi rhith o ymholiad i'r achwyniad, ac ymgynghori a'u gilydd, dygasant ymlaen y rheithfarn, "No true bill," gan fwrw yr achos heibio megys yn annheilwng o un sylw pellach. Erbyn hyn yr oedd sefyllfa y crefyddwyr yn waeth nag o'r blaen. Wedi apelio at y gyfraith, a chael gwrthodiad llwyr i'w cais, gellid disgwyl pa mor eofn y byddai eu gwrthwynebwyr bellach, a pha mor beryglus y byddai eu sefyllfa hwythau.

Troisant oddiwrth y Neuadd, wedi clywed rheithfarn y bonedd-