Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/369

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyr, gyda chalon drom, heb wybod pa beth bellach ellid ei wneyd. Ymollyngasant i wylo yn dost; ac yn eu trallod aethant at John Evans, y Bala, a gosodasant eu cwyn o'i flaen, . gan ddywedyd mor drallodedig oeddynt, a gofyn ei gyfarwyddyd ef cyn dychwelyd adref. Ac yn wir, yr oeddynt yn rhy ddigalon ac ofnus ymron i ddychwelyd adref oll, gan y disgwylient y byddai eu herlidwyr yn eu disgwyl; y rhai, wedi gweled na chydnabyddai y gyfraith ddim o achwyniaeth y penau-cryniaid yn erbyn neb, a fyddent yn hyfach a ffyrnicach nag erioed; fel rhai wedi cael rhyddid y gyfraith i wneyd i'r crefyddwyr druain y sarhad a fynent. 'Peidiwch a wylo,' ebe John Evans, 'a pheidiwch chwaith a myned adref; aroswch yn y dref hyd y bore, a ni a edrychwn ai nid oes modd eich hamddiffyn'."—Methodistiaeth Cymru. I. 513.

Ond torodd gwawr ar eu hachos o ganol tywyllwch. Ac fel hyn y bu. Yr oedd boneddwr yn aros yn Mhlasyndre, yr hwn oedd berthynas i Mrs. Lloyd, mam y Parch. Simon Lloyd o'r Bala. Dylanwadodd John Evans ar Mrs. Lloyd, a Mrs. Lloyd ar y boneddwr hwn, i gymeryd achos y crefyddwyr o Ddolgellau i fyny drachefn. Ymddangosai iddo a'r unwaith fod cam wedi ei wneyd yn y mater; aeth i'r llys, a llwyddodd rywfodd, i ail agor yr achos oedd wedi ei roddi heibio, heb wneuthur ymchwiliad priodol iddo y diwrnod cynt, ac mae'r hanes yn dweyd iddo roddi cerydd llym i'r Grand Jury, a gofyn iddynt, pa fodd y meiddient ar eu llw ymddwyn fel y gwnaethent mewn achos mor eglur. Y canlyniad fu i'r byrddau gael eu troi. Dychwelwyd rheithfarn wrthwynebol, a'r tro hwn o blaid y gorthrymedig. Erbyn hyn yr oedd pethau wedi newid yn fawr iawn mewn ychydig o amser. Y crefyddwyr wedi cael llwyr oruchafiaeth. "Cerddodd y newydd yn gyflym i Ddolgellau, ac aeth amryw o'r prif erlidwyr i ffordd. Anfonwyd gweision y Sirydd gyda'r crefyddwyr i Ddolgellau, ac anfonwyd y crier trwy y dref, i hysbysu yr amddiffyniad a roddid drostynt, os meiddiai neb eu gorthrymu mwy."