Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/370

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fel y gellid yn naturiol dybio bu hyn yn foddion i dori grym yr erledigaeth greulawn oedd hyd yma wedi bod yn teyrnasu yn y dref. Ni feiddiai y gwrthwynebwyr bellach, rhag ofn y gyfraith, fod mor hyfion i niweidio personau a meddianau. Mae'n wir nad oedd yr ysbryd erlidgar wedi treio dim, ond yn hytrach ei enyn trwy yr oruchafiaeth hon a enillasid gan ddilynwyr yr Arglwydd Iesu; teflid pob dirmyg ar grefydd a chrefyddwyr, a gosodid pob rhwystr ar eu ffordd am flynyddau wedi hyn, a pharhaodd yr ysbryd erlidgar, fel yr ydys wedi gweled, yn yr ardaloedd cylchynol dros ryw gymaint o amser wedi dyfodiad Mr Charles i fyw i'r Bala.

Adroddir hanesyn arall o natur wahanol i'r uchod a fu yn effeithiol i leddfu cryn lawer ar yr erledigaeth, yr hwn, feallai, a gymerodd le heb fod ymhell oddiwrth yr un amser. Tro caredig a boneddigaidd oedd hwn o eiddo Mr. Jones, Llangan, tuag at un a fuasai gynt yn afflonyddu ac yn anmharchu pregethwyr. Ar rai achlysuron, erbyn hyn, byddai cryn nifer yn ymgasglu i wrando, yn enwedig ar wyr dieithr o'r Deheudir, mwy na ellid gynwys yn gysurus yn yr un ty. Pregethid y troion hyn, os byddai y tywydd yn rhoi, allan ar risiau, yn ymyl tŷ Ann Evans. Tra yr oedd Mr. Jones, Llangan, yn pregethu un tro oddiar y grisiau hyn, gwnai un gwr lawer o drwst ar yr heol. Er ceisio rhwystro y moddion, gyrai ferfa olwyn yn ol ac ymlaen, yn union o flaen y pregethwr, nes peri dyryswch tra mawr i'r llefarwr a'r gwrandawyr. Y tro nesaf yr oedd Mr. Jones yn pregethu yn y dref yr oedd y gŵr hwn yn y carchar, bron yn ymyl y fan y safai ef i bregethu; yr oedd y cöf yn fyw am dano yn tyrfu gyda y ferfa olwyn y tro o'r blaen; mynegwyd i Mr. Jones mai yn y carchar gerllaw yr oedd yn awr, a'i deulu yn y dref yn dioddef yn fawr oddiwrth dlodi ac angen. Yntau a hysbysodd y dyrfa, eu bod yn ddiau yn cofio am y trwst a fu ar yr heol y tro o'r blaen, a bod y gŵr a'r gŵr yn y carchar, a'i deulu yn dioddef eisiau, ac a erfyniodd ar ryw un fyned a het o amgylch i ofyn am eu hewyllys da i'r teulu. Caf-