Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/371

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyd rhoddion ewyllysgar i'r amcan, a dylanwadodd y tro yn fawr iawn i doddi calon yr erlidwyr, yn fwy, meddir, nag odid ddim byd arall.

Mae yr hanes canlynol a rydd Mr. Hughes am ddewisiad y blaenoriaid cyntaf yn Nolgellau yn ddyddorol:" Y lle cyntaf yn y dref i ymsefydlu ynddo, dybygid, oedd mewn tŷ ardrethol, yn nghyntedd Plasyndre. Tŷ bychan, distadl, ydoedd, ond yr oedd o dan ddylanwad y Miss Edwards y soniasom eisoes am dani. Yn y tŷ hwn y sefydlwyd cymeithas eglwysig gyntaf; ac yma y dewiswyd y blaenoriaid, neu henuriaid eglwysig, gyntaf. Fe soniai rhai o'r hen bobl, hyd yn ddiweddar, am weddi hynod Robert Sion Oliver ar yr achlysur o ddewis blaenoriaid. Rhedai rhyw gyfran o honi yn y wedd a ganlyn: O Arglwydd, rhyw ddau neu dri o bobl druain, dlodion, oeddym ni 'does fawr; yn awr, yr ydym yn llawer mwy. Y mae i ni yrwan FLAENORIAID.—Bendigedig, Arglwydd, am FLAENORIAID.—Llwyddiant iddyn' 'nhwy;— llwyddiant iddyn' 'hwy! &c. Ymddengys fod y weddi ddirodres hon â rhyw danbeidrwydd ynddi ar y pryd, yr hwn ni ellir ei ddisgrifio, a'r hwn ni ellir, ychwaith, ei lwyr anghofio."

Hyd yma y cyrhaedda gwybodaeth am ffurfiad yr eglwys. Nis gellir dweyd pa bryd y cynhaliwyd y cyfarfod eglwysig cyntaf, na pha nifer a berthynai i'r eglwys, yn unig ceir mai "dau neu dri o bobl druain dlodion" oeddynt. Yr oeddynt yn symud ymlaen yma tuag at drefn, hyd y gellir gweled, yn foreuach nag un lle arall yn y rhan Orllewinol o'r sir, os nad oedd Penrhyndeudraeth wedi eu rhagflaenu. Yr oedd yma eglwys a blaenoriaid cyn adeiladu yr un capel. Y mae ychydig o hanes adeiladu y capel cyntaf ar gael, ac fel hyn y ceir ef yn Methodistiaeth Cymru:"Rywbryd tua'r flwyddyn 1787, neu ychydig o flaen hyny, cafwyd cyhoeddiad Mr. Jones, Llangan, i bregethu yn Nolgellau, ac er fod ysbryd erlid wedi lleihau llawer wrth a fuasai gynt, eto nid oedd wedi cwbl farw. Y tro hwn, pan oedd Mr. Jones yn pregethu ar yr heol,