Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/372

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dybygid, fel y gwnaeth y troion o'r blaen, daeth un o'r hen blant a thresi (chains) yn ei ddwylaw, gan eu tincian yn eu gilydd, a thrwy hyny rwystro y gynulleidfa i gael gwrando. Ar hyn, gwaeddodd Mr. Jones y mynai gael capel yn Nolgellau, costied a gostiai. Y pryd hwnw yr oedd y Deheudir yn cynorthwyo y Gogledd yn y gorchwyl o adeiladu capelau; a thrwy offerynoliaeth Mr. Jones, Llangan, a charedigrwydd brodyr yn y Deheubarth, y caed modd i'w adeiladu; cafwyd darn o dir gan wr bonheddig a berthynai i'r Crynwyr, am yr hwn y talwyd 20p; ac ar y darn tir hwn, adeiladwyd capel." Prynwyd y lle i adeiladu y capel flwyddyn yn gynt nag a nodir uchod. Dyddiad y weithred ydyw Tachwedd 28ain, 1786. Dr. Henry Owen oedd y boneddwr a werthodd y tir i'r Methodistiaid. Yr oedd yn sefyll ar y tir dri neu bedwar o hen dai, a rhoddwyd 121p. 10s. am yr oll. Yr ymddiriedolwyr oeddynt, Thomas Charles, Thomas Foulkes, John Evans, o'r Bala; Hugh Lloyd, a John Lewis. Y ddau olaf oeddynt flaenoriaid yr eglwys yn Nolgellau. Hwy eu dau, ynghyd a'r tri ŵyr enwog o'r Bala, yn ddiau oeddynt â'r llaw benaf yn mhryniad y tir, ac yn adeiladaeth y capel. Parhai cyfeillion y Bala yn ffyddlon i'r eglwys yn Nolgellau, megis yr oeddynt wedi bod agos i 20 mlynedd yn flaenorol, pan yn cymeryd Pantycra dan amod-weithred i bregethu ynddo. Diameu, hefyd, i lawer o gynorthwy arianol ddyfod o'r Bala at adeiladu y capel. Nid oedd yr ychydig grefyddwyr oedd yn Nolgellau eto ond tlodion. Yr oedd yn rhaid dibynu bron yn gwbl am y cymorth o'r tu allan i gyffiniau y dref. Yr hanes a roddwyd am hyn ddeugain mlynedd yn ol ydyw, mai "trwy offerynoliaeth Mr. Jones, Llangan, a charedigrwydd brodyr y Deheubarth, y caed y modd i'w adeiladu." Ymddengys fod cynorthwy wedi ei gael hefyd oddiwrth Cymdeithasfa y Gogledd. Yn nghofnodion Cymdeithasfa y Bala, Mehefin 13eg, 1787, ceir a ganlyn: "Talwyd i glirio capel Dolgelle, 17p. 4s. 9½.c." Eto, Cemaes, Rhagfyr 1787—" I Ddolgelle, i dalu y llog i Dr. Owen, 3p."