Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/373

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid oes dim yn ychwaneg yn wybyddus am na thraul na dyled y capel hwn. Nid oes fawr o hanes yr achos ynddo ychwaith ar gael. Dywedir mai llawr pridd, a muriau plaen, oedd y tumewn iddo. Buwyd yn addoli ynddo am dros 20 mlynedd, sef hyd y flwyddyn 1809. Yn ystod yr ugain mlynedd hyn, cynyddodd yr achos yn fawr, a bu llawer o wir addoli yn yr hen gapel. Cynhaliwyd ynddo gynhadleddau llawer Cymdeithasfa. Yma y sefydlwyd yr Ysgol Sabbothol—yn ol Lewis William, Llanfachreth, yn 1801. Yr oedd y casgliad cenhadol yma, yn 1799, yn 16p. 12s. 6c. A bu llawer o'r ail do o'r cewri Methodistaidd yn pregethu ynddo.

Ceir crybwyllion na ddylid eu hanghofio am flaenoriaid Dolgellau yn ystod blynyddoedd cyntaf eu hanes yn y capel hwn, gan ddau o'r pregethwyr cyntaf a gyfododd i bregethu yn y rhan Orllewinol o Sir Feirionydd. Yn 1791 y dechreuodd Lewis Morris bregethu. Ac yn y Cyfarfod Misol cyntaf y bu sylw ar ei achos, ymddengys nad oedd pawb yn hollol gydsynio iddo gael bod yn bregethwr. Adrodda yntau fel rhan o'r drafodaeth hono,—"Hen frawd oedd yn blaenori yn Nolgellau a ofynodd i mi ddyfod yno ar nos Sabbath; a dywedais wrtho nad oedd genyf ddim i'w ddweyd wrth grefyddwyr, y rhai oeddynt yn gwybod mwy, ac ymhob modd yn rhagorach na myfi. Wrth bwy y mae genych beth i'w ddweyd?' meddai yntau. Atebais mai ceisio achub dynion annuwiol oddiar y ffordd lydan yr oeddwn. Mae llawer o'r fath ddynion yn dyfod i'n capel ni,' ebe yntau. Felly aethum yno ar nos Sabbath, pryd y daeth lliaws i wrando arnaf, canys yr oedd llawer o honynt yn fy adnabod o'r blaen. Y tro hwn cymerais destyn o'r Beibl, sef Act. ii. 47. Bu brodyr Dolgellau yn gefnogaethol i mi yn y Cyfarfod Misol ar ol yr odfa hon." Yr oedd y Parch. Robert Griffith wedi ei eni a'i fagu yn Nolgellau, ac yn 17eg oed pan adeiladwyd y capel cyntaf. Aeth am ychydig flynyddau pan yn ieuanc i breswylio i Liverpool. Dychwelodd yn ol, ac mewn ychydig nodiadau o hanes ei fywyd ei hun