Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/374

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dywed:— "Fel hyn, yn mis Mai, y flwyddyn hono (1793), ymsefydlais yn Nolgellau, lle y ganwyd ac y magwyd fi. Yr oedd y pryd hyn gryn ddiwygiad yn Nolgellau; yr oedd achos crefydd gyda'r Methodistiaid yn llawer mwy siriol nag y gwelswn i ef, pan yr oeddwn yno o'r blaen. Er nad oedd y proffeswyr yn gyffredin ond pobl isel eu sefyllfa, ac yn cael eu cyfrif yn rhai pur wael, fel ysgubion y byd;' eto, yr oedd yr Arglwydd yn eu harddel fel ei bobl, a hwythau yn ei ddilyn yntau, ac yn ceisio sefyll yn erbyn llygredigaethau eu cymydogaeth. Er mai chwerthin am eu penau yr oedd llawer, yr oedd cydwybodau y gwatwarwyr yn tystio mai y bobl a wawdid ganddynt oedd yn eu lle. Cefais flaenoriaid y society yn Nolgellau yn dirion iawn, a byddwn yn cyfeillachu llawer â hwy. Byddwn yn arfer myned gyda hwy i gadw cyfarfodydd gweddïau, a societies, ar y Suliau, i Aber—Corris, Cwrt, Llanerchgoediog, Bwlch, Llwyngwril, Ty—Ddafydd (yn awr Sion), Bontddu, Llanelltyd, Llanfachreth." Mor debyg i wir Gristionogion! Yr oedd crefyddwyr y Bala wedi helpu llawer ar grefyddwyr Dolgellau yn eu gwendid; y maent hwythau yn union wedi cael eu cefnau atynt, yn myned ac yn helpu manau eraill yn yr un amgylchiadau.

Llwyddiant oedd ar yr achos yn Nolgellau y blynyddoedd hyn. Helaethwyd y capel bach, ymhen ucha y dref, trwy roddi oriel (gallery) arno. Er gwneuthur hyn, aeth eto yn fuan yn rhy fychan. Ac ar y 12fed o Fai, 1808, mae y Methodistiaid yn prynu lle capel arall, ac ar unwaith yn adeiladu Salem, yn y maint a'r ffurf y mae yn bresenol. Mae y modd y sicrhawyd y tir i adeiladu y capel hwn mor hynod a rhagluniaethol, fel y mae yn werth cofnodi yr adroddiad air am air fel y ceir ef yn Llyfr Cronicl y Cyfundeb:— "Llygadai y brodyr, er's peth amser, am le arall i adeiladu capel mwy; ond nid oedd un Ilygedyn o dir yn y golwg, yn un man cyfleus, ac yr oedd y gobaith i'w gael i'r diben hwn yn brin iawn, er talu ei lawn werth am dano. Cyhoeddwyd, pa fodd bynag, fod lle i gael ei