Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/375

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

werthu, yr hwn, os gellid ei gael, a fyddai yn gyfleus a dymunol iawn; ond ofnid yn fawr pan y deallid y diben, na cheid mohono, heb roddi am dano lawer iawn mwy na'i werth. Yr oedd y gwerthiad ar auction mewn tafarndy. Aeth dau fasnachwr cyfrifol, sef Mr. Thomas Pugh, a Mr. Edward Jones, y rhai oeddynt o nifer y brodyr crefyddol, i'r arwerthiad, yn bryderus eu calonau; pryd yr oedd eraill o'r brodyr yn gweddio am eu llwydd. Yr oedd llawer o foneddwyr y dref a'r gymydogaeth wedi dyfod i'r arwerthiad, ac yn cynyg yn awyddus am y tir, nid cymaint oddiar wrthwynebiad i'w gilydd, nac hwyrach oddi ar awyddfryd i'w gael iddynt eu hunain, ond yn benaf, os nad yn gwbl, rhag ei feddianu gan y Methodistiaid. Yr oedd dros ddau cant o bunau eisoes wedi ei gynyg am y tir, gan Mr. Pugh, pryd y dywedodd yr arwerthydd, os na roddid iddo gynygiad uwch cyn pen deng mynyd, y byddai y tir yn eiddo i Mr. Pugh. Gyda'i fod yn dywedyd hyn, aeth dau gi i ymladd â'u gilydd yn yr ystafell, a thynwyd sylw pawb ond Mr. Pugh, yr hwn oedd a'i lygad ar ei oriawr yn ddyfal, at y cŵn. Aeth y deng mynyd heibio, a pharhâi y cŵn i ymladd; ond pan aethai pymtheng mynyd heibio, galwodd ar yr arwerthydd i sylwi ar yr amser, a chofio ei addewid. Er mawr syndod iddo, ac er dirfawr siomedigaeth i'r boneddigion, yr oedd yr adeg trosodd, a'r tir yn eiddo Mr. Pugh; Wel,' ebe yntau, dyna dir i'r Methodistiaid i adeiladu capel.' Pe gwybuaswn i hyny,' ebe rhyw foneddwr yn y fan, mi a godaswn gan punt yn ychwaneg ar ei bris."—Methodistiaeth Cymru, I. 577. Mawr oedd llawenydd y Methodistiaid fod y tir wedi dyfod i'w meddiant, a bod y ffordd yn glir bellach i adeiladu capel helaethach. Byddai yr hen bobl yn y dref yn arfer son llawer wrth eu plant hyd yn ddiweddar, am ofal rhagluniaeth drostynt yn y tro hwn, am yr arwerthiad, am y boneddigion yn cynyg yn eu herbyn, ac am y cŵn yn ymladd nes drysu eu cynlluniau. Y swm a roddwyd am y tir oedd £235. Yr oedd y mesuriad yn fawr, gan ei fod yn cynwys y fynwent a'r holl dir sydd mewn cysyllt-