Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/377

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

L. W. i fyned i gadw ysgol yn ei gylch drwy alwad yr ardaloedd. Yr eglwys yn Salem oedd yn galw am dano yr adeg hon. Ymhlith ei bapyrau, y mae rhai llythyrau ar gael, wedi eu hysgrifenu dros y brodyr yn Nolgellau gan Mr. Edward Pugh (yr hwn oedd yn dad i Mr. Eliazer Pugh, Liverpool), yn taer erfyn arno ddyfod. "Peidiwch oedi heb yru ateb efo R. R., pa amser y deuwch, os ydych yn meddwl y gellwch ddyfod. A pheidiwch a meddwl am aros ddim yn hwy na Chymdeithasfa Abermaw fan bellaf. Ac os yw Aberdyfi neu Towyn am eich rhwystro, a chwithau am aros, peidiwch a bod heb ddangos eich meddwl. Hyn, dros y gymdeithas, oddiwrth Edward Pugh." Mae yntau yn ateb fel hyn:—

"At Ymddiriedolwyr, neu Olygwyr, yr Ysgol Rad, Capel Salem, Dolgellau.

"Mi a dderbyniais eich caredig anerchiad Ionawr 15fed, yr hwn a barodd lawenydd a thristwch i mi. Llawenydd wrth glywed am eich llwyddiant yn yr achos. Yr wyf yn teimlo fy meddwl yn llawn o ddiolchgarwch i'r Arglwydd, ac i chwithau fel offerynau, ac i lawer eraill sydd yn ewyllyswyr da i'r achos, ac yr wyf yn deall eu bod yn lliosog. Yr wyf, yr annheilyngaf o bawb, yn ewyllysgar, hyd eithaf fy ngallu, i fod yn ffyddlawn wasanaethwr i chwi yn yr achos. Ond y brys sydd arnoch i'r ysgol gael ei dechreu, a'r achos o hyny, a barodd dristwch ma i fy meddwl, oherwydd nad wyf yn ewyllysio tori neu ddrysu eich bwriadau daionus chwi. Er nad wyf yn anewyllysgar, eto mae yn hollol groes i fy meddwl, ac yn bechadurus, yn ol fy marn i, i mi ymadael oddiyma cyn gorphen y chwarter. Ac un o'r rhesymau sydd genyf i beidio ymadael oddiyma ydyw, fy mod wedi addaw bod yma chwarter; ac os amgen, mi a fyddaf yn dorwr amod, ac o ganlyniad, yn achos o lawer o gablu. Hyn oddiwrth eich annheilyngaf wasanaethwr, Lewis William. Aberdyfi, Ionawr 17, 1817."

Nifer y plant gydag ef yn yr ysgol yr adeg hon oedd 103.