Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/378

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd 65 o'r cyfryw heb gyraedd ddim pellach na diwedd y llythyrenau. Nid oedd ond 26 yn dysgu ysgrifenu, a 7 yn dysgu rhifyddiaeth. Yr oedd yma drachefn yn 1822, ac ymddengys iddo aros yma y tro hwn hyd Mawrth 30ain, 1824. Y mae rhestr faith o enwau y plant oedd gydag ef yn yr ysgol y tro hwn ar gael, rhai o honynt yn enwau adnabyddus, ac yn eu plith y mae enw y diweddar Barch Roger Edwards, Wyddgrug. Dichon iddo fod yn preswylio yn y dref heblaw yr adegau a nodwyd, a sicr ydyw iddo wneuthur llawer o ddaioni bob tro y bu yma.

Yr Ysgol Sabbothol

Gwnaeth yr Ysgol Sabbothol waith ardderchog yn Nolgellau. Nid yn unig bu yn foddion addysg ac iachawdwriaeth i dô ar ol tô o ieuenctyd a gyfododd yn y dref, ond o honi hi yr anfonid gweithwyr trwy yr holl flynyddau i gynorthwyo ysgolion y wlad ymhob cyfeiriad o amgylch y dref. Ysgrifenodd y diweddar Mr. David Jones ei hanes o'r dechreuad hyd 1862, a'r diweddar Mr. R. O. Rees a roddodd lawer o'i hanes mewn cysylltiad à Lewis William. Iddynt hwy eu dau yr ydym yn ddyledus am y ffeithiau a gofnodir am yr ysgol yn y dref. Dechreuwyd hi gan John Ellis, Abermaw, un o ysgolfeistriaid Mr. Charles, rywbryd yn niwedd y ganrif o'r blaen. Ond cododd gwrthwynebiad cryf oddiwrth y blaenoriaid, ac aelodau blaenaf yr eglwys, fel y bu gorfod ei rhoddi i fyny. Ail gychwynwyd hi gan L. W., tra yr oedd ef yn aros yn y dref, yn ystod yr "heddwch byr," yn 1801. Cyfarfyddodd yr hen bererin â rhwystrau mawrion i'w sefydlu. Yr oedd swyddogion y capel ar y cyntaf yn benderfynol yn ei herbyn. Arferid cynal society am naw o'r gloch y boreu; yr oedd gwasanaeth yn y llan am 11, pryd na byddai dim math yn y byd o foddion gan neb o'r Ymneillduwyr; a chyfarfod gweddi neu bregeth am 2 a 6. Felly nid oedd yr un awr i'w chael i gadw yr ysgol. Penderfynodd L. W. ei chynal am 6 o'r gloch y boreu.