Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/379

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid oedd neb o'r brodyr a'i cynorthwyai; efe oedd yr arolygwr a'r athraw, efe oedd yn dechreu a diweddu yr ysgol, yn ledio penill ac yn dechreu canu, yn holwyddori ac yn dysgu y plant. Aeth y rhwystrau yn fwy eto. Symudodd y gwrthwynebwyr y society i chwech o'r gloch y boreu; symudodd yntau yr ysgol i 4 o'r gloch y boreu! Deuai o 60 i 80 o blant iddi ar yr oriau plygeiniol hyn. Plant gan mwyaf o'r factories a gweithydd eraill y dref a wnai i fyny yr ysgol. Ond daeth Mr. Charles i'r dref, a dadleuodd yn zelog dros ei hoff sefydliad, a llwyddodd iddi cael ei chynal fel moddion rheolaidd am 9 o'r gloch y boreu. Ni chlybuwyd am ddim rhwystrau oddiwrth y penaethiaid ar ol hyn. Daethant o un i un i fod yn zelog o'i phlaid. Y cyntaf a ddaeth. i roddi cynorthwy iddi oedd Edward Richard, y blaenor. Daeth. eraill ar ei ol. "Cawn yr hen ddisgybl, Thomas Pugh, yno, yn dechreu canu, Edward Jones a Sion Lewis yn dysgu y plant, a Sion Ellis, o'r Bwlchcoch, yn agoryd yr Ysgrythyrau." Ar ol dyfod dros y gwrthwynebiad mawr cyntaf enillodd yr ysgol nerth, ac yn ystod y blynyddoedd dyfodol aeth rhagddi yn y dref hon yn fwy nag un man. Mewn adroddiad am yr Ysgol Sabbothol yn addoldy capel Salem am 1829, gan y Parch Roger Edwards, dywedir fod rhif yr athrawon yn 37; athrawes— au 34; cyfan 71. Nifer mwyaf yr ysgol y flwyddyn hono oedd 411; a'r nifer leiaf 377. Dywedir hefyd yn yr un adroddiad, "y mae yr ysgol mor lliosog, fel pan ei cynhelir nad oes un eisteddle yn wag yn addoldy helaeth Capel Salem." Rhifedi cyflawn yr ysgol drachefn yn 1862 oedd 496.

Rhydd Mr. David Jones enwau lliaws o bregethwyr wedi cyfodi o'r ysgol hon. Dywed mai ynddi hi ymagwyd y Parchn. John Jones (Idrisyn); Rowland Hughes, gweinidog gyda'r Wesleyaid; Lewis Roberts, gweinidog gyda'r Bedyddwyr. Y rhai a ddechreuodd yma gyda'r Methodistiaid—Parchn. Richard Roberts, (?) Roger Edwards, John Williams, Morris Davies, M.R.CS, L.R.C.P., a L.S.A., o Gaernarfon; William Davies, Llanegryn—Yr oedd ef yn un oedd yn sefydlu y Gymdeithas