Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/380

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Lenyddol a elwid "Cymdeithas un o'r gloch;" David Jones, Gar- egddu; a Hugh Roberts, gynt o Cassia; yn ddiweddarach E. J. Evans, yn awr o Walton, Liverpool; ac yn ddiweddarach drach- efn, sef yn 1887, derbyniwyd Cadwaladr Jones yn aelod o'r Cyf- arfod Misol.

Un o'r pethau neillduol a berthynai i'r Ysgol Sul yma am lawer blwyddyn, ac a fu yn ddiau yn un o'r moddion i'w gwneuthur mor flodeuog a grymus, ydoedd yr arbenigrwydd a roddid ar osod athrawon ac athrawesau yn eu swydd. Cynhelid cyfarfod pwrpasol i'r amcan. Ar ol i ryw nifer gael eu neillduo a'u cymeradwyo gan y cyfarfod athrawon, penodid brawd i draethu ar "Natur Swydd Athraw," brawd arall i ofyn cwestiynau i'r rhai a etholasid, ac un neu ddau arall i roddi cynghorion iddynt. Wrth fwrw golwg dros y gwaith trwyadl a wnelid yn y modd hwn anhawdd yw peidio gofyn, "y tadau, pa le maent hwy? y proffwydi, a ydynt hwy yn fyw byth?" Coffheir eto am enwau y rhai fu'n fwyaf blaenllaw gyda'r ysgol. Ond dylid feallai grybwyll un engraifft a geir yn adroddiad 1829, canys dyna yr adeg yr oedd yr Ysgol Sul wedi cyraedd yr oes euraidd, "Nid anmhriodol fyddai coffhau yma am Mr. David Davies, yr hwn sydd newydd ymadael â ni (ac sydd yn bresenol yn Liverpool). Yr oedd ei barodrwydd, ei fywiogrwydd, a'i fedrusrwydd gyda gwaith yr ysgol yn amlwg iawn; ac efe yn benaf a fu yn offeryn i ddwyn yr ysgol i'w threfn bresenol."[Gwel Cronicl yr Ysgol Sabbothol, Medi 1882, tu dal. 211; a'r Drysorfa, Mawrth 1831. tudal. 83.]

Y Cymanfaoedd

Y Gymdeithasfa Chwarterol gyntaf a gynhaliwyd yn Nolgellau oedd y flwyddyn yr adeiladwyd y capel cyntaf, sef yn 1787. Mewn adroddiad o'r Hen Gymdeithasfaoedd, ceir fod yma un drachefn yn Rhagfyr, 1788. Wedi adeiladu capel Salem, cynhelid Cymdeithasfa yn y dref yn rheolaidd bob blwyddyn am yn agos i ddeugain mlynedd. Cynhelid hwy i