Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/381

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddechreu ar yr heol, wedi hyny ar y maes. Byddai ymdriniaeth helaeth ar yr Ysgol Sabbothol yn nghynadleddau y Gymdeithasfa flynyddol hon yn wastad. Nid oes neb all ddweyd maint y daioni a wnaethpwyd trwy y Cymdeithasfaoedd Chwarterol a blynyddol yr amser gynt, trwy wasgaru bywyd ac adnewyddiad yn ngwahanol eglwysi a chynulleidfaoedd y wlad, a thrwy y dylanwadau nerthol a ddilynai y pregethu yn yr awyr agored. Nid ychydig oedd traul a thrafferth y cyfeillion yn Nolgellau gyda'r holl Gymdeithasfaoedd a gynhaliwyd yno o dro i dro. Mae y gras o letygarwch wedi bod yn dra helaeth yn y dref er dyddiau Mr. Charles. Bendithiodd Rhagluniaeth lawer o deuluoedd y dref a thrysorau y bywyd hwn. Yr oedd y ddwy fendith fawr yn cydredeg yr Arglwydd yn bendithio teuluoedd y Methodistiaid a phethau tymhorol, ac yn agoryd eu calonau i'r gras o letygarwch a haelioni. Nid oedd yr un lle yn Ngorllewin Meirionydd, hyd yn gymharol ddiweddar, yn alluog o ran cyfleusderau a manteision i roddi derbyniad i'r Gymdeithasfa Chwarterol. Felly pan ddisgynai ei thro i ddyfod i'r rhan hon o'r sir, yn Nolgellau y disgynai bob amser. O ganlyniad mae nifer y Cymdeithasfaoedd a gynhaliwyd yn y dref o'r dechreuad yn fawr iawn.

Yma y cynhaliwyd Cymdeithasfa Chwarterol yr haf 1870, pryd, fel y mae yn gofus gan lawer hyd heddyw, y traddododd y Parch. E. Morgan, Dyffryn, araeth rymus a hyawdl ar "Hanes yr achos yn Ngorllewin Meirionydd." Prif fater yr anerchiad ydoedd, (1) cymharu yr achos o fewn cylch y Cyfarfod Misol yn 1870 â'r hyn oedd yn 1850; (2) dangos fel yr oedd bugeiliaeth eglwysig wedi llwyddo, ac mai i hyny yr oedd cynydd a llwyddiant crefydd yn y rhan yma o'r wlad i'w briodoli. Cariodd yr anerchiad gymaint o ddylanwad ar y Gymdeithasfa fel y penderfynodd ei argraffu yn adroddiad arno ei hun. Hwn oedd y tro cyntaf yn y Gogledd i roddi hanes yn y Gymdeithasfa am yr achos yn y sir lle y cynhelid hi. Ac yn y Gymdeithasfa ddilynol, yn Mhwllheli, penderfynwyd, "fod y Cyfarfodydd Misol i benodi brodyr i roddi adroddiad am sef-