Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/382

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yllfa yr achos yn y sir y byddo y Gymdeithasfa ynddi, ac fod hyn i fod ymhob Cymdeithasfa." Cynhaliwyd Cymanfa Gyffredinol y Cyfundeb yn Nolgellau Mehefin 17-19, 1873.

Yr Eglwys yn Nghapel Salem

Yn y flwyddyn 1808, fel y crybwyllwyd, yr adeiladwyd capel Salem. Aeth y draul i'w adeiladu oddeutu £1500, ac y mae y ddyled ar ddiwedd 1809 yn £980. Gorphenwyd talu y ddyled hon yn 1833, yn y modd a ganlyn. Gwneid casgliad cyhoeddus yn y Gymdeithasfa flynyddol a gynhelid yn y dref yn mis Hydref am 18 mlynedd. Yr oedd y casgliad cyhoeddus yn Nghymdeithasfa 1809 yn £25 7s. 61c. Ond ymddengys fod y casgliad a wneid fel hyn yn myned yn llai fel yr oedd y blynyddoedd yn cerdded; y swm yn 1827, y flwyddyn olaf y gwnaed y casgliad yn y modd hwn ydoedd £5 2s. 10c. Ffynhonell arall trwy ba un y telid y ddyled oedd, gydag arian yr eisteddleoedd. Nid oeddynt yn llawer, ond dyma bron yr unig ymdrech leol a wnelid y blynyddoedd hyn, yma ac mewn lleoedd eraill, i glirio y ddyled. Erbyn hyn yr oedd y casgliad chwarterol o ddimai yr aelod a wneid yn yr holl eglwysi yn cael ei drosglwyddo i'r Cyfarfod Misol ac nid i'r Gymdeithasfa, a byddai y Cyfarfod Misol yn cynorthwyo i dalu dyled yr holl gapelau y byddai dyled arnynt, bach a mawr fel eu gilydd. Bu yn lled hael i dalu dyled capel Salem. Derbyniodd y cyfeillion yma £20 o Gyfarfod Misol Ffestiniog yn 1810; ac amryw symiau wedi hyny o dro i dro hyd 1826, pryd y der- byniasant £50 o Gyfarfod Misol Trawsfynydd, a hwn oedd y swm olaf a dderbyniwyd o'r ffynhonell hon. Wedi i'r cynorthwy ballu o'r Cyfarfod Misol, ac oddiwrth y casgliad cyhoeddus yn y Gymdeithasfa, gwnaethant ymdrech yn eu plith eu hunain, a daethant yn fuan iawn yn rhydd o'r ddyled. Yr oeddynt yn gwbl rydd o ddyled yn 1839, a'r flwyddyn hono casglasant yn Salem yn unig £297 9s. tuag at glirio dyled capelau rhwng y Ddwy Afon. Aethant i ddyled drachefn wedi hyny, gyda'r