Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/383

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fynwent, adeiladau oddiallan, a thrwy draul lled fawr i adnewyddu y capel o bryd i bryd, ac y maent eto heb ddyfod yn ddiddyled.

Adeiladwyd ysgoldy Llyn Penmaen yn 1863. Ac yn Nghyfarfod Misol Trawsfynydd yr un flwyddyn penderfynwyd, "Ein bod yn ymddiried gofal yr achos yn y lle i gyfeillion Dolgellau, ac yn eu hanog i ymdrechu cael pregethu yno mor aml ag y byddo modd." Rhoddwyd y tir yn rhodd gan Mrs. Jones, Penmaen. Disgynodd y draul ar y pryd, a'r gofal o hyny hyd yn awr ar Salem. Yn Nghofnodion Cyfarfod Misol Bontddu, Ebrill 4, 1887, ceir y penderfyniad canlynol,—"Derbyniwyd yr hysbysiad gyda llawenydd, fod Edward Griffith, Ysw., U.H., Springfield, Dolgellau, yn cyflwyno capel oedd wedi ei brynu yn mhen uchaf y dref, yn rhodd ac yn rhad i'r Cyfundeb, i fod at wasanaeth yr Ysgol Sul a moddion eraill; a chyflwynwyd diolchgarwch gwresocaf y Cyfarfod Misol iddo am ei rodd haelionus." Adeilad oedd hwn wedi bod yn perthyn i enwad arall. Yr oedd yn werth fel y cyflwynodd Mr. Griffith ef i'r Cyfundeb £150, a rhoddodd Salem £80 o gostau i'w adgyweirio y flwyddyn ddiweddaf. Y mae yn awr mewn sefyllfa dda, ac ynddo Ysgol Sabbothol yn cael ei chynal yn rhifo 74, o dan nawdd ac arolygiaeth Salem; cynhelir cyfarfodydd gweddi hefyd, a cheir pregeth ynddo yn awr ac yn y man.

Y flwyddyn 1815 ydyw yr amser y ceir enwau a rhif yr aelodau eglwysig yn Nolgellau gyntaf, a hyny mewn taflen ymysg ysgrifau Lewis William. Ac fel hyn yr oedd y rhif y flwyddyn hono—meibion 43; merched 70; cyfan 113. Edrycha y nifer yn fychan pan gofir fod mwy na chwe' blynedd er pan adeiladesid capel mawr Salem, a deugain mlynedd neu ychwaneg feallai er pan oedd yr eglwys wedi ei sefydlu yn y dref. Ond sicr ydyw mai ychydig oedd nifer proffeswyr crefydd ymhob man hyd y diwygiad mawr, 1817—18. Yn y flwyddyn 1877 sefydlwyd dwy eglwys gyfan allan o Salem, sef Bethel a'r Eglwys Saesneg, mewn canlyniad i'r ddau gapel hyn gael eu