Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/385

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Owen, Llwyngwril, ac Ann Evans, Dolgellau, Mai 16eg y flwyddyn hono, gan y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn. Yr ail briodas a gymerodd le ynddo ydoedd Medi 22, 1841, sef Roger Edwards, Wyddgrug, ac Ellin Williams, Dolgellau.

Parheir i gynal cyfarfod athrawon yma er's amser boreuol iawn, ar ol y bregeth boreu Sabbath, sef cyfarfod darllen, yn ol yr ystyr diweddar i'r gair. Amser yn ol ffurfiwyd Cymdeithas y Gwyr Ieuainc, a chynhelid ei chyfarfodydd am un o'r gloch y Sabbath. Traddodid anerchiadau yn y cyfarfodydd hyn gan y bobl ieuainc ar bynciau crefyddol ac athrawiaethol. Bu y gymdeithas am dymor yn flodeuog, a gwnaeth ddaioni mawr i liaws oedd yn aelodau o honi y pryd hwnw.

Y mae Salem wedi bod ar y blaen i eglwysi y sir gyda chynhaliaeth y weinidogaeth a bugeiliaeth eglwysig. Yma y dechreuodd y symudiad hwn yn ei gysylltiad â'r rhan hon o'r sir, a'r diweddar Barchedig Edward Morgan, Dyffryn, ydoedd pioneer y symudiad. Bu ef yn weinidog rheolaidd yr eglwys o Awst 1847 hyd Hydref 1849. Wedi hyny rhoddodd yr eglwys alwad i'r Parch. John Griffith, Nant, Sir Gaernarfon, a nos Fawrth, Ionawr 4, 1859, cynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad, pryd y traddodwyd araeth ar ddyledswydd yr eglwysi i'w gweinidogion gan y Parch. Edward Morgan, Dyffryn, ac anerchiad i'r gweinidog gan y Parch. Dr. Edwards, Bala. Symudodd Mr Griffith yn gynar yn 1863, i gymeryd gofal eglwys Jerusalem, Bethesda, Arfon. Bu y Parch. David Evans, M.A., Gelligaer, yn awr o'r Abermaw, yn weinidog yr eglwys o 1864 i 1875. Ac y mae y Parch. R. Roberts wedi ymsefydlu yma yn weinidog rheolaidd er 1875. Y rhai sydd yn gwasanaethu swydd diacon yn yr eglwys yn bresenol ydynt Mri. E. Griffith U.H., Humphrey Jones, J. Meyrick Jones, Richard Williams, Richard Jones. Yn canlyn ceir cofnodiad bywgraffyddol am:—

Y BLAENORIAID.

Hugh Lloyd, currier, a John Lewis, glover. Y ddau hyn