Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/387

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

at wasanaeth yr achos goreu, yr hwn y rhoddai ei fenthyg yn fynych i gludo pregethwyr, y rhai a draethent yr efengyl o ardal. i ardal. A dywedir i'r ceffyl hwn "gario pynau trymion iawn, a chael croesaw gwair llwyd ystabl ty'r capel ugeiniau o weithiau." Yr oedd Mr. Pugh yn weithiwr rhagorol gyda phob rhan o achos crefydd, ac yn dra haelionus; yn gyfaill mynwesol hefyd i Mr a Mrs Charles, o'r Bala. Yr oedd gyda Mr. Charles yn Llundain yn 1811, mewn cyfarfod mawr o blaid yr achos cenhadol, ac ysgrifena oddiyno at ei wraig i'r Bala, Medi 10fed y flwyddyn hono,—"Meddyliwn na fu fy nghalon erioed haner digon agored i gyfranu at achos Mab Duw. Diwygiad, diwygiad, sydd eisiau yn fawr iawn ymhob parth, yn enwedig mewn cyfranu i helaethrwydd at achos yr efengyl. Rwyf yn gweled Mr. Charles bob dydd, ond nid oes gyfleusdra i ymddiddan ag ef. Mae efe yn iach, ac hefyd yn llawen, dybygwn, ac felly y gwelwch bawb yma ag sydd yn caru llwyddiant efengyl Crist." Yr oedd hyd yn ddiweddar adgofion am Mr Pugh ymhlith hen bobl y dref, fel un nefolaidd ei ysbryd, a'r dagrau yn llifo dros ei ruddiau pan yn gweddio. Efe, fel y crybwyllwyd, oedd a'r llaw benaf mewn prynu tir capel Salem, ond bu farw yn fuan wedi hyny, Ionawr 1, 1812. Mae ei feddrod yn mynwent Dolgellau, ac yn gerfiedig ar ei fedd—faen, "Yma y gorwedd hen ddisgybl, gyda'r hwn y lletyem." Edward Jones.—Siopwr ydoedd ef yn y dref, ac yr oedd gydag achos y Methodistiaid er yn lled foreu. Bu yn flaenor yn yr hen gapel. Ceir ei enw gyda Mr. Thomas Pugh yn prynu tir i adeiladu capel Salem. Erys ei deulu yn golofnau gyda'r achos hyd heddyw. Wyr iddo ef ydyw Dr. Edward Jones, U.H., Caerffynon.

Edward Richard.—Oriadurwr wrth ei gelfyddyd. Henadur a blaenor ymhob ystyr o'r gair. Bu yn llenwi y swydd yn hir, mewn amser yr oedd yr achos yn cyfodi o'r pant i fryn llwyddiant. Efe oedd y cyhoeddwr yn ei amser. Efe hefyd a osodwyd gan y Cyfarfod Misol i ofalu gydag adeiladu capel