Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/389

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu rhinweddau teuluaidd ac eglwysig. Eu tŷ a fu yn gartref i achos crefydd, ac i lu mawr o efengylwyr oedd yn cyd-oesi â hwy. Dywed bywgraffydd Mr. John Jones, yn y Drysorfa, y flwyddyn ganlynol i'w farwolaeth, "Am letygarweh, drachefn, ni phetrusaf ddywedyd na bu mo'i well yn hyn, yn ol ei allu, o ddyddiau Abraham hyd yn awr; canys derbyniodd ryw doraeth o weision Crist i'w dy o dro i dro, a hyny heb un math o ddetholiad arnynt; eithr cymerai hwynt drwodd a thro fel y caffai efe hwynt." Wedi proffesu Crist am 40 mlynedd, a bod yn flaenor am oddeutu 34 mlynedd, hunodd mewn tangnefedd Ionawr 29ain, 1852.

Evan Morris.—Annibynwr ydoedd ef o deulu, ac yr oedd yn frawd i Meurig Ebrill. Dyn tawel, llariaidd, a hynod o grefyddol. Bu yn aelod crefyddol am 50 mlynedd; yn ddiacon am tua 30; ac yn arwain y canu yn Salem am flynyddau lawer. Bu farw Awst 13eg, 1859, yu 81 mlwydd oed.

Ellis Williams.—Ganwyd ef yn 1781. Bu yn Nghaernarfon am beth amser yn gweithio gwaith glover, a daeth yn ol i Ddolgellau yn ddyn ieuanc. Yr oedd yn swyddog yn Salem yn 1814, a cheir ei enw yn un o'r rhai a arwyddodd Weithred Gyfansoddiadol y Cyfundeb. Bu am dymor yn drysorydd y Cyfarfod Misol, pan oedd y ddau ben i'r sir yn un. Digon o reswm dros ei fod yn wr pwysig gyda'r achos ydyw, iddo fod yn llenwi y swydd hon. Edrychid arno yn Nolgellau fel dyn o awdurdod. Ond byddai yn cario ei awdurdod weithiau yn llawn ddigon pell. Arferai gribo yn drwm ar adegau. Bu farw Hydref, 1855, yn 74 oed. Eduard Jones, (Dyffryn).—Yr oedd yn athraw yn yr Ysgol Sul yn yr hen gapel. Dewiswyd ef yn flaenor yn fuan wedi adeiladu Salem. Symudodd i'r Dyffryn, a dewiswyd ef yn flaenor yno yn 1828; ceir ei hanes yn helaethach mewn cysylltiad â'r eglwys yno.

Thomas Jones, Druggist.—Gŵr deallus, a defnyddiol