Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bobl gyffredin, a heriai y plwyfydd a'r ardaloedd cyfagos i ymladd yn ei erbyn. Gwiria hyn y ffaith sydd yn hysbys am Gymru, sef, fod y boneddigion a'r werin yn ymgymysgu â'u gilydd gyda'r hen arferiad isel hwn. Gymaint oedd yr arferiad wedi gydio yn y wlad, fel yr oedd boneddig a gwreng, hen. ac ieuainc, penau teuluoedd a phlant, yn eu hafiaeth yn eu dilyn. Yn hanes bywyd Harri Jones, Nantymynach, dywedir fod ei fab hynaf, pan oedd yn 14eg oed, yn dilyn yr arferiad hwn bob cyfle y gallai, a'i fod yn cadw ceiliogod o bwrpas i ymladd yn yr oedran cynharol hwnw. Ceisiai ei dad ganddo ymhob rhyw ffordd i beidio; ond nid oedd dim byd yn tycio, hyd nes y darfu ei dad a'i fam, y rhai oeddynt ill dau yn bobl grefyddol iawn, roddi ei ddewisiad iddo, naill ai iddo ymadael â thy ei dad yn gwbl oll, neu ymadael â'r arferiad. lygredig. Pan y rhoddwyd y bachgen yn y fath gyfyngder, fe ddewisodd adael yr arferiad yn hytrach na gadael tŷ ei dad,. ac fe werthodd yr adar, a bu y tro yn foddion argyhoeddiad iddo.

Yr oedd yr arferion hyn wedi cael llonydd i wreiddio yn y wlad er cyn côf, a mwy na chael llonydd, yr oeddynt wedi cael. pob magwraeth oddiwrth uchelwyr, oddiwrth y Wladwriaeth, ac oddiwrth yr Eglwys Sefydledig. Dywed Ficar Pritchard,. Llanymddyfri, am ei amser ef, "fod yn anhawdd penderfynu. pa un ai yr offeiriad, y ffermwr, y labrwr, y crefftwr, y ceisbwl, y barnwr, neu y boneddwr oedd y mwyaf rhyfygus mewn annuwioldeb." Yn y flwyddyn 1633 y darfu Charles I., trwy ddylanwad yr esgobion, basio cyfraith fod yn rhaid darllen "Llyfr y Chwarenon" yn yr eglwysi ar y Sabbothau. Gwnaed. hyn gyda'r amcan o ddial ar y Puritaniaid, eu cael i ymadael a'r eglwysi, a'u gyru allan o'r wlad, er mwyn paganeiddio y wlad, a'i chadw mewn anwybodaeth, a thywyllwch ac ofergoel- edd. Ni allesid dyfeisio yr un ddyfais well i gyfateb i chwaeth y werin bobl. Ymddengys, yn ol pob hanes sydd ar gael, fod y gyfraith hon wedi dwyn ffrwyth yn y rhanau yma o Sir