Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/390

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyda'r achos, a dylanwadol yn y dref. Yn ei dy ef y byddai llawer o'r pregethwyr yn lletya. Bu yn llwyddianus yn ei alwedigaeth tra parhaodd i'w dilyn. Ond aeth i drin fferm i'r Glyn, Talsarnau, a throes yr anturiaeth hono yn aflwyddianus. Mae ei weddw a'i ferch yn aros hyd heddyw, ac yn ffyddlon i achos crefydd.

Thomas Jones, Pantyronen.—Bu ef yn flaenor yn flaenorol yn Llanelltyd. Symudodd oddiyno i berthyn i Salem yn 1843. Gŵr da a hawddgar, meddir, ond iddo wneuthur rhai troion yn ei oes heb fod yn y ffordd ddoethaf. Gorfodaeth roddwyd arno i symud o Lanelltyd, ac mae yr amgylchiadau yn haeddu cael eu cofnodi. Anfonodd y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, ddeiseb iddo o blaid y Corn Law, yr hon oedd y pryd hwnw yn cael ei dadleu o flaen y Senedd, gan ddymuno arno fyned o amgylch ardal Llanelltyd i gael y trigolion i'w harwyddo. Gwnaeth yntau yn ol y dymuniad. Clywodd ei feistr tir. Syr R Vaughan, aeth ato ar unwaith, a rhoes rybudd iddo i ymadael a'i dyddyn, a gorchymynodd yn bendant heblaw hyny nad oedd y tenant newydd i brynu yr un geiniogwerth o'i eiddo ar ei ymadawiad. Cyrhaeddodd y newydd am y camwri a'r trallod yr oedd ynddo i glustiau Mr. Casson, hen foneddwr crefyddol o Ddolgellau, ac aeth ato a dywedodd wrtho am ymddiried yn Rhagluniaeth, ac o berthynas i'w eiddo ar y tyddyn, os byddai raid, y deuai ef ei hun yno i'w brynu. Ac yn unol a'i addewid, aeth yno pan ddaeth yr amser i ymadael i fyny, ond erbyn hyn yr oedd T. Jones wedi gwerthu ei anifeiliaid a'i eiddo oll, a chael pris da am danyut. Felly, gofalodd Rhagluniaeth am dano, ac yr oedd ganddo dipyn wrth gefn pan yr ymadawodd a'r byd hwn yn y flwyddyn 1865.

Griffith Davies—Dechreuodd ei yrfa gyda dechreuad y ganrif, oblegid ganwyd ef yn 1800. Mab ydoedd i Griffith Davies ac Elinor Humphreys, o Ddolgellau. Daeth i gysylltiad â chrefydd gyda rhyw blant eraill, yr hyn yn ddiau a