Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/391

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gymerodd le yn fuan ar ol sefydliad yr Ysgol Sabbothol yn y dref. Yn ddigon naturiol, edrychai bob amser wedi hyny gyda dyddordeb ar gywion yr estrys. Nid oedd yn un o'r rhai a gafodd dröedigaeth amlwg, yn hytrach tyfu wnaeth ei grefydd yn raddol. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod pan yn 18 oed, yn mhoethder y diwygiad mawr a gynhyrfai y wlad ar y pryd. Bu yn flaenor yn eglwys Salem am o fewn ychydig fisoedd i 50 mlynedd. Dygodd lawer o arferion y tadau gydag ef i'r oes bresenol. Bu yn crefydda gyda'r tô cyntaf bron o grefyddwyr y dref, yn gwrando ar ddwy neu dair cenhedlaeth o bregethwyr, ac yn cydweithio â phrif ddiaconiaid yr eglwys. Ac un o heddychol ffyddloniaid Israel y cyfrifid ef bob amser. Yr oedd yn ddefnyddiol, gweithgar, a chymeradwy ymhob cyfnod ar ei oes. Ysgrifenwyd yr hyn a ganlyn am dano, wedi ei fynediad oddiwrth ei lafur at ei wobr,—"Ni phetruswn ei alw yn model deacon, ac nid ydym yn meddwl y tramgwydda neb arall wrthym am roddi y flaenoriaeth hon iddo. Cyfunodd am lawer o flynyddoedd ynddo ei hun yr henuriad a'r diacon. Heblaw gwasanaethu byrddau y ty, porthodd braidd Duw â gwir faeth ysbrydol gyda medrusrwydd a ffyddlondeb mawr. Yr oedd ynddo bron bob cymhwysder tuag at gyflawni y swydd yn anrhydeddus—gwybodaeth helaeth o athrawiaethau crefydd, parodrwydd ymadrodd, ysbryd pwyll a barn, tymer gyfunwedd, ffyddlondeb diball, ac uwchlaw y cyfan, duwioldeb mawr ac amlwg." Nid oedd yn un a fynychodd lawer ar y Cymanfaoedd a'r Cyfarfodydd Misol. Mewn gwasanaethu crefydd gartref y rhagorodd. Byddai fel colofn, gadarn, gref yn y moddion Sabbothol ac wythnosol, a rhoddai urddas ar bob moddion trwy ei bresenoldeb, a'i gyfiawniadau crefyddol. Yr ydoedd mor llawn o'r Ysgrythyrau, mor ddwfn ei brofiad, ac mor ddefosiynol ei feddwl, ac felly yn hynod o gyfaddas a pharod i ymdrin â phrofiadau y saint yn y cyfarfodydd eglwysig.

Oriadurwr ydoedd wrth ei alwedigaeth, a bu yn dra diwyd