Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/392

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a llwyddianus yn ei orchwylion bydol. Hynodid ef fel masnachwr o ran ei onestrwydd a'i gywirdeb, fel yr enillodd ymddiried y dref a'r ardaloedd. Dyn byr, crwn, cadarn o gorffolaeth ydoedd; hynod ei ymddangosiad, ond hollol naturiol a boneddigaidd. Rhoddai yr olwg arno argraff ar feddwl pawb ei fod yn ddyn o feddwl dyfnach na'r cyffredin. Rhoddai agwedd ei gorff hefyd, a'i ddull o siarad, lawer o help i argraffu yn ddwfn ar y meddwl yr hyn a ddywedai mewn ymddiddan ac yn y cynulliadau cyhoeddus. Mor dywysogaidd fyddai yr olwg arno yn dyfod i'r addoliad, a chymaint o gynorthwy a roddai i'r llefarwyr trwy ei ddull astud o wrando, a'i ebychiadau cynes.

Fel arwydd o'r ymddiried a roddai ei frodyr ynddo, gosodwyd ef yn y swydd o drysorydd y Cyfarfod Misol, yr hon a lanwodd am dymor maith gyda ffyddlondeb mawr. Dewiswyd ef i'r swydd hon yn mis Mawrth, 1847. Ac yn y flwyddyn 1880, oherwydd henaint a llesgedd, rhoddodd ei ymddiriedaeth i fyny. Ar yr achlysur cyflwynwyd iddo Anerchiad wedi ei argraffu ar vellum, a'i osod mewn frame euraidd brydferth. Gwnaed y cyflwyniad yn gyhoeddus yn Nghyfarfod Misol Rhydymain. Mewn cysylltiad ar cyflwyniad, ei hen gyfaill, y Parch. Roger Edwards, a wnaeth y sylw canlynol:— Er yn ieuanc yr oedd efe yn enwog fel un tra chyfarwydd yn yr Ysgrythyrau, ac eang a dwfn ei wybodaeth dduwinyddol, wedi darllen y dadleuon athrawiaethol yn yr hen Seren Gomer, dan olygiaeth y Parch. Joseph Harries, ac yn un o'r rhai blaenaf yn nghyfarfodydd Cymdeithas Dduwinyddol capel Salem, a gynhelid rhyw 55 mlynedd yn ol. Ei hyddysgrwydd ysgrythyrol a geir yn darawiadol iawn pan y sieryd yn y cyfarfodydd eglwysig, a hawdd y gellir canfod gwres calon ynglyn â goleu pen yn ei gydnabyddiaeth o'r gwirionedd."

Mawr fyddai y syndod ei glywed yn fynych yn y cyfarfod eglwysig, ar nos Sabbath, yn adrodd yr Ysgrythyrau, yn enwedig Epistolau Paul, gyda'r fath helaethrwydd a rhwydd-