Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/396

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lawer cyn hyny. Fel hyn y dywedai un o'i gyd—flaenoriaid am dano, "A chymeryd golwg gyflawn a'r holl gylch ei ddefnyddioldeb, ymddengys i ni yn ddieithriad y mwyaf anhawdd i Ddolgellau ei hebgor i'r Nefoedd o'i holl drigolion. O'r olyniaeth anrhydeddus o ddiaconiaid y bendithiodd Duw ei eglwys yn Salem â hwynt, ni roddodd yr un mwy ffyddlon a defnyddiol yn ei ddydd na'r brawd anwyl hwn." Daeth ei yrfa i'r pen yn sydyn, er galar i eglwys Salem, ac i'r dref oll. Byddai crefydd bob amser yn amlwg yn ei deulu. Mab iddo ef ydyw y Parch. D. Jones, Garegddu.

William Williams, Ivy House.—Ganwyd ef yn Plas Clocaenog, gerllaw Rhuthyn, yn y flwyddyn 1798. Yr oedd ei dad, Ellis Williams, yn amaethwr cyfrifol, a rhoddwyd pob manteision dysgeidiaeth i'r mab pan yn ieuanc. Gwnaeth yntau y defnydd goreu o honynt; ymberffeithiodd yn y canghenau o addysg a fu yn ddefnyddiol iddo fel masnachwr llwyddianus; yr oedd yn dra chydnabyddus yn yr iaith Saesneg, yn gyfrifydd parod, ac yn meddu ar lawysgrif ragorol. Treuliodd ei brentisiaeth fel draper yn y Bala, gyda Mr. Gabriel Davies, yr hwn oedd yn un o brif fasnachwyr brethynau Gogledd Cymru. Pan oedd yn aros yn y Bala, yr oedd yr anfarwol Mr. Charles yn fyw, yr hwn a alwai yn achlysurol yn y siop, ac a roddai symbyliad i'r prentis ieuanc â rhyw air cefnogol. Parodd y gydnabyddiaeth bersonol hon â Mr. Charles iddo ei edmygu yn anarferol trwy ei oes, a bu yn foddion i deyrngarwch at Fethodistiaeth wreiddio yn ei natur ieuanc ef ei hun. Yma hefyd,. yr adeg hon, yr oedd Mr. D. Davies, Mount Gardens, Liverpool, yn egwyddorwas yn yr un siop, ac yn fuan, fe ffurfiwyd cyfeillgarwch rhwng y ddau ŵr ieuanc a barhaodd trwy eu hoes. Gan eu bod ill dau yn llawn bywyd ac yni, ac wedi eu cymhwyso yn dda at fasnach, penderfynodd Mr. Gabriel Davies agor masnach yn Aberystwyth, ac anfonodd hwy yno i'w chario ymlaen. Nid oedd y naill na'r llall yn aelodau eglwysig ar y pryd, ond yr oeddynt yn fechgyn o gymeriad da,