Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/397

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yn llawn zel gyda'r Ysgol Sabbothol a'r achos cenhadol. Wedi llwyddo yn fawr gyda'r fasnach yn Aberystwyth, yn 1821, ymsefydlodd Mri. Williams a Davies fel drapers yn Nolgellau. Er nad oeddynt eto yn aelodau eglwysig, rhoddasant eu tŷ yn agored i achos crefydd. Hwy, hefyd, fel y crybwyllwyd, fuont yn foddion i sefydlu y cyfarfod cenhadol misol yn Salem. Llwyddasant yn y byd mor gyflym, fel yr aeth eu masnachdy yn rhy gyfyng, ac yn 1826 adeiladasant y "Shop Newydd" bresenol. Yn fuan ar ol hyn ymunodd Mr. Davies â'r eglwys, ac yn 1830 ymadawodd o Ddolgellau i Liver- pool.

Yn y flwyddyn 1833 priododd Mr. Williams â Miss Alice Lloyd, o Ffestiniog, ac am dymor dygodd y fasnach ymlaen ar ei gyfrifoldeb ei hun. Profodd Mrs. Williams yn rhodd anmhrisiadwy i'w phriod; cariodd hi ddylanwad mawr ar yr achos yn Salem, ac ar y dref yn gyffredinol. Yr oedd yn un o'r boneddigesau mwyaf llednais yn yr holl wlad, ei haelioni at bob achos, a'i gofal am y tlodion yn ddiarebol. Byddai ei llygaid a'i chalon hi bob amser yn agored, a llawer pregethwr a gafodd ei anrhegu ganddi â gwisg deilwng i'w swydd. Erys ei choffadwriaeth yn berarogl hyd heddyw. Mrs. Williams a ymunodd â'r eglwys gyntaf, a chyn hir enillodd ei hysbryd duwiolfrydig hi ei phriod. Yr oedd ef yn weithiwr da gyda chrefydd o'r blaen, ond ar ol hyn dyblodd ei ddiwydrwydd. Yr oedd y fath gymwysderau ynddo at bob gwaith fel yr enillodd ymddiried llwyr ei frodyr ar unwaith. Ac yr oeddynt yn rhoddi braidd ormod o swyddi iddo cyn ei ddewis yn swyddog. Ni a'i cawn yn cael ei anfon i amryw Gymdeithasfaoedd gyda Mr. Humphreys o'r Dyffryn, ac yn cael ei nodi ar rai pwyllgorau pwysig, a hyny cyn bod yn aelod o'r Cyfarfod Misol. Yn y cyfnod hwn, anfonwyd ef dros y Cyfarfod Misol i Gynhadledd a gynhelid yn Aberystwyth, i wneuthur ymchwiliad i achos o anghydwelediad rhwng y Cyfundeb â Chymdeithas Genhadol Llundain. Dengys golebiaeth a gymerodd le rhyngddo