Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/398

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef â Mr. Davies, Fronheulog, ei fod yn aelod pwysig of honi.

Yn 1836 ymneillduodd oddiwrth ei fasnach, a threuliodd y gweddill o'i fywyd yn Ivy House, gan ymgysegru yn hollol i achos crefydd yn gyffredinol. Yn nechreu y flwyddyn 1844 y. dewiswyd ef yn flaenor, ac y derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol. Ond gymaint o waith oedd wedi ei wneyd cyn hyny i'r Sir ac i'r Cyfundeb! Bron nad ydyw ei weithredoedd da yn rhy liosog i ddechreu eu henwi. Ond wele rai o honynt. Efe oedd y prif symudydd i gael yr Ysgol Frytanaidd gyntaf i Ddolgellau, ac i gael yr adeilad newydd mewn cysylltiad â chapel Salem, a chyfranodd £85 at yr amcan. Dechreuwyd yr ysgol hon yn 1840. Prynodd y tir drachefn, lle yr adeiladwyd yr Ysgoldy hardd sydd yn awr yn perthyn i'r Bwrdd Ysgol, ac ac a'i cyflwynodd yn rhodd at yr un amcan. Pwne mawr cenhadaeth ei fywyd oedd addysg. Byddai Mr. Morgan yn arfer dweyd mai £300 Mr. Williams at y Gronfa, a'i £500 at yr. adeilad a roddodd y gefnogaeth gryfaf iddo ef i gychwyn gyda'r casgliad mawr hwnw. Efe hefyd a sefydlodd Ysgoloriaeth Charles yn y Bala. Rhoddodd gynorthwy arianol i bregethwyr ieuainc, ac anrhegion o lyfrau i ugeiniau. Yr oedd yn Ymneillduwr egwyddorol; am 30 mlynedd efe oedd y prif symudydd o blaid egwyddorion Rhyddfrydol, ac oherwydd ei fedrusrwydd, efe y rhan amlaf fyddai yn llywyddu y cyfarfodydd, pryd yr- ymladdwyd llawer brwydr galed. Ymhyfrydai mewn cynllunio ac ysgrifenu rhywbeth beunydd mewn cysylltiad â'r achos crefyddol yn y dref. Mae hanes cyflawn am holl symudiadau yr achos yn Salem wedi ei gadw ganddo, casgliadau y Cyfarfod Misol, hefyd, ac ystadegau lled gyflawn am flynyddau rai cyn iddynt gael eu hargraffu gyntaf yn 1849. Penodid ef yn aml yn ysgrifenydd neu drysorydd casgliadau y Gymdeithasfa, a bu yn un o ysgrifenyddion Athrofa y Bala bron o'r dechreu hyd amser y Gronfa. Os byddai eisiau man of business at unrhyw orchwyl, i Ivy House yr elid i chwilio am dano. Flynyddau yn