Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Feirionydd yn fwy na dim byd arall. Dilynodd ei heffeithiau ymlaen, gan ychwanegu yn ei dylanwad, am 150 o flynydd- oedd.

Yn 1623, deng mlynedd cyn pasio deddf "Llyfr y Chwareuon," talodd Dr. Lewis Baily, Esgob Bangor, ymweliad â phlwyfydd ei esgobaeth. Cyhoeddwyd hyny oedd ar gael o'i adroddiad yn yr Archaeologia Cambrensis, am Hydref, 1863. Crybwyllir am bedwar plwyf yn Sir Feirionydd, a dau o honynt o'r dosbarth hwn:—

LLANEGRYN. "Dim ond dwy bregeth a gafwyd yma."

PENAL. Anfynych y maent yn cael pregethau yma."

Cyffelyb ydoedd, yn ddiameu, yn y plwyfydd eraill. Tebyg i hyn y parhaodd pethau am y ganrif o flaen y Diwygiad Meth- odistaidd.

Dyma fras-ddarluniad o'r wlad cyn i grefydd ei gwneuthur y peth ydyw yn awr. Ac fe gofir nad yw yr hyn a ddywedwyd yn cynwys dim ond rhai o brif arferion y wlad. Yr oedd llawer iawn o ofergoeledd a Phabyddiaeth yn ffynu ynglyn â chladdu y marw. Ystyrid yn anmharch ar y trancedig os na renid diod boeth cyn cychwyn oddiwrth y tŷ, a myned i'r dafarn i yfed wedi gorphen claddu. Byddai tafarn a llan yn ymyl eu gilydd bob amser, ac yn ol geiriau un oedd yn byw yn y cyfnod hwn, "ar ol claddu y marw, byddai y peth a alwent yn siot, sef postio swllt y llaw i gael cwrw." A'r mwyaf ei siot fyddai y mwyaf ei barch. Prawf fod yr arferion hyn wedi gwreiddio yn ddwfn yn y wlad ydoedd, y bu raid cael amser mor faith i'w dadwreiddio. Parhaodd yr arferiad o ymladd ceiliogod hyd yn agos i driugain mlynedd yn ol, ac nid oedd rhanu diod boeth mewn claddedigaethau ond prin wedi darfod pan ddaeth dirwest i'r wlad, haner can mlynedd yn ol.