Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/403

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a daethpwyd i gytundeb gyda Dr. Evans i'w ryddhau. Yna cyflwynwyd ef i Mr. H. Humphreys, Aberystwyth, fel chemist. Tra oddicartref yr adeg yma mae ei lythyrau at ei fam o Aberystwyth, a Liverpool, a Llundain yn llawn o hanesion am symudiadau yr achosion crefyddol, ac yn dangos ei fod ef ei hun, yn hollol ymroddedig i grefydd.

Ar ol bod fel hyn rai blynyddau oddicartref, mae yn ymsefydlu yn Nolgellau yn y flwyddyn 1842 fel Chemist a Bookseller. Ni bu ond ychydig amser nad oedd wedi enill ei le, a hwnw yn lle pwysig, yn y dref ac yn eglwys Salem. O hyn allan mae yn dechreu rhagori fel athraw, fel holwyddorwr, ac yn llawn zel gyda dirwest, y Band of Hope, addysg, y Feibl Gymdeithias, a phob symudiad a dueddai i ddyrchafu a moesoli ei gyd-drefwyr. Yn fuan wedi ymsefydlu yn Nolgellau y mae yn dyfod i'r golwg fel llenor galluog. Un o'r rhai cyntaf i'w adnaood yn. yr ystyr yma, ydyw Dr. Edwards, o'r Bala. Y mae yn ei gyflogi yn un o ysgrifenwyr y Traethodydd, a hyny ar ei gychwyniad cyntaf. Mae yn anfon ato yn 1846, ac yn gofyn am erthygl ar Moffat, ac yna ar y Cenadaethau, ac wedi cael prawf arno fel ysgrifenydd, mae yn anfon iddo hanes cyflawn am y Traethodydd, y testynau a'r ysgrifenwyr &c, ac yn niwedd ei lythyr dywed, "But I must insist upon one condition, that you write an article for the Traethodydd without delay. I am in earnest about it, and it will be a heavy blow and great disappointment if you refuse. Send me an article for every other number on some general subject, either literary o'r scientific." Yn ei gys- ylltiad â'r wasg, gwnaeth Mr. Rees yn ddiamheuol ei ôl ar ei wlad yn y cyfnod yr oedd yn byw ynddo. "Fel ysgrifenwr, yr oedd ei enw yn adnabyddus trwy Gymru, a diameu ei fod yn un o'r lleygwyr Cymreig galluocaf. Cyhoeddodd amryw lyfrau Cymreig, a golygodd liaws eraill. Golygodd weithiau Dafydd Ionawr, ac ysgrifenodd hanes bywyd y bardd. Cyhoeddodd gyfieithiad o 'Gysondeb y Pedair Efengyl,' gan Robinson, at yr hwn yr ychwanegodd Nodiadau Eglurhaol o'i waith ei hun.