Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/404

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn ddiweddarach, cyhoeddodd 'Gofiant Ieuan Gwynedd,' a golygodd weithiau barddonol Cranogwen. Ond feallai fod y llyfr diweddaf oll a gyhoeddodd, 'Hanes Mari Jones, y Gymraes fechan heb yr un Beibl,' wedi enill iddo fwy o fri nag unrhyw un o'i weithiau blaenorol." Y mae i'r llyfr hwn, megis y crybwyllwyd o'r blaen, gylchrediad anarferol o fawr, ac y mae wedi ei gyfieithu i liaws o wahanol ieithoedd. Cydnabyddwyd ei lafur gyda hyn, ynghyda'i wasanaeth cyffredinol i'r Feibl Gymdeithas gan y Fam Gymdeithas yn Llundain. Ychydig fisoedd cyn diwedd ei oes, anfonwyd am dano i gyfarfod o Gyfarwyddwyr y Gymdeithas, a chyflwynwyd iddo un o'r Beiblau harddaf yn anrheg er coffadwriaeth o'r amgylchiad. Ar y Beibl y mae anerchiad yn ysgrifenedig, yr hwn sydd wedi ei arwyddo gan lywydd y Gymdeithas, Iarll Shaftesbury, a'r ysgrifenyddion.

Yn nechreu y flwyddyn 1854 dewiswyd Mr. R. O. Rees, yn flaenor yn eglwys Salem, ac yn Abermaw, y mis Mawrth canlynol derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol. Gwasanaethodd y swydd yn yr eglwys hon gyda difrifwch ac ymroddiad, ac mae yn bur sicr nad oedd yr un dyn mwy duwiolfrydig ei yspryd yn perthyn i'r eglwys nag efe. Ac wedi adeiladu capel Bethel yn 1877, efe ydoedd un o golofnau cadarnaf yr eglwys yno. Dangosodd ei gariad at y Gwaredwr trwy gyfranu yn haelionus at wahanol achosion crefyddol ar hyd ei oes. Yn ychwanegol at yr hyn a gyfranodd yn y dref, a'r ardaloedd cylchynol, ac at y gwahanol gymdeithasau, argraffodd 1000 o copïau o'Hanes Mari Jones' yn y Casiaeg, i'w cyflwyno yn anrheg i'r Gymdeithas Genhadol Dramor. Ni byddai yn cymeryd rhan yn y Cyfarfodydd Misol a'r Cymdeithasfaoedd, ond byddai yn well ganddo, fel yr arferai ddweyd, fyned yn ei ffordd fach ei hun i ymweled âg Ysgolion Sabbothol Dosbarth Dolgellau. Yn y cylch hwn, fel y ceir gweled ei hanes yn helaeth yn y benod ar yr Ysgol Sabbothol, y bu ei wasanaeth yn fwyaf gwerthfawr o un man y tu allan i'w dref enedigol.